Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymorth Ymgysylltu Achlysurol

Pobl Ifainc a'r Gymuned
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 6
£11.27 yr awr
Gweithwyr Dros Dro

Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEP) Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn chwilio am Weithwyr Cymorth Achlysurol er mwyn hwyluso darpariaeth y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid o safon uchel o fewn ardal leol benodol. Bydd deiliad y swydd yn rhoi cymorth mewn perthynas â gwaith cynllunio, gweithredu a gwerthuso'r rhaglen o weithgarwch sy wedi cael ei chytuno, mewn ymgynghoriad â phobl ifainc. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau sy'n cael eu cynnal gyda'r hwyr, ar y penwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol.

Bydd angen i ddeiliad y swydd baratoi, cyflawni a gwerthuso gweithgareddau dysgu mewn amrywiaeth o leoliadau yn unol â'r Strategaeth Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid yn ôl cyfarwyddiadau arweinydd y garfan. Bydd angen iddo hefyd sicrhau lles pobl ifainc trwy lynu wrth bolisïau diogelu ac iechyd a diogelwch.

Rydyn ni'n chwilio am nifer o Weithwyr Cymorth achlysurol fydd yn helpu'r gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn ôl yr angen. Os oes profiad gyda chi o weithio gyda phobl ifainc ac ymrwymiad at yrru'r agenda yma yn ei flaen, gofynnwch am ragor o wybodaeth.

Am ragor o fanylion, ffoniwch Nicola Murphy, Arweinydd y Garfan, y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ar (01443) 281436 neu e-bostio Nicola.j.murphy@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Pan fo angen
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
15 Ionawr 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.