Gweld swydd wag -- Gweithiwr Chwarae Achlysurol
Mae cyfle newydd a chyffrous wedi codi o fewn Carfan Datblygu Chwarae yr awdurdodau lleol.
Rydyn ni'n chwilio am bobl frwdfrydig i ymuno â'n carfan chwarae i ddarparu cyfleoedd chwarae mentrus ac ystyrlon i blant a phobl ifainc rhwng 5 a 14 oed, mewn cymunedau lleol ledled Rhondda Cynon Taf.
Gan ddefnyddio ystod o offer ac adnoddau chwarae bydd disgwyl i chi gynllunio a chreu amgylcheddau chwarae cyfoethog sy'n cefnogi ethos 'Chwarae Dewis Rhydd'.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y swydd yma, dylech chi ffonio Gail Beynon - Rheolwr Datblygu'r Gwasanaeth Chwarae ar 07786523863.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymdeithas.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.