Gweld swydd wag -- Cynorthwyydd Gwasanaethau Oriau Dydd – Swydd Achlysurol
Rydyn ni'n chwilio am Gynorthwywyr Gwasanaeth Oriau Dydd Achlysurol i gyflenwi pan fydd staff y Gwasanaethau Oriau Dydd i Oedolion ar wyliau blynyddol neu'n sâl. Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gyflenwi mewn canolfannau oriau dydd ar hyd Rhondda Cynon Taf.
Bydd dyletswyddau'n cynnwys cynorthwyo pobl gyda thasgau gofal personol a chynorthwyo'r sefydliad i gynnal amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer pobl sy'n mynychu'r ganolfan oriau dydd. Byddwch chi hefyd yn teithio gyda defnyddwyr y gwasanaeth ar gerbydau'r gwasanaeth sydd wedi'u haddasu'n arbennig a llenwi gwaith papur perthnasol pan fo angen. Bydd gofyn i chi ddefnyddio cyfrifiadur a meddu ar sgiliau ysgrifenedig a llafar ardderchog i gynnal cofnodion a chyfathrebu'n effeithiol ag unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth, ac ag arbenigwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd angen i chi feddu ar agwedd aeddfed a bydd angen i chi ddeall anghenion pobl hŷn. Byddai profiad o weithio gyda phobl hŷn neu dreulio amser yn eu cwmni o fantais.
Byddwch chi'n cael cymorth i gwblhau'r Fframwaith Ymsefydlu, rhaglen wedi'i llunio i'ch paratoi chi ar gyfer eich swydd newydd. Yn ogystal â hynny, bydd hyfforddiant parhaus a goruchwyliaeth er mwyn eich helpu i wneud eich gwaith yn effeithiol. Bydd angen i chi feddu ar Ddiploma Lefel 2 FfCCh mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) neu ddangos parodrwydd i weithio tuag at y cymhwyster.
Oherwydd natur y swydd, bydd gofyn i chi deithio'n annibynnol i leoliadau ledled ardal RhCT.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Stephen Gray, Rheolwr Gwasanaethau Oriau Dydd ar (01443) 486858 neu anfonwch e-bost: Stephen.T.Gray@rctcbc.gov.uk
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymdeithas.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.