Gweld swydd wag -- Gweithiwr Gofal Cymdeithasol – Gwasanaethau Gofal Seibiant
Gweithiwr Gofal Cymdeithasol – Gwasanaethau Gofal Seibiant
1 Swydd wag x 25 awr wedi'i lleoli yn Ystrad Fechan Bungalow, Treorci
1 Swydd wag x 25 awr wedi'i lleoli yn Beech Cottage, Abercwmboi, Aberdâr
Ydych chi'n chwilio am her? Ydych chi'n mwynhau rhoi cymorth i bobl? Rydyn ni am benodi unigolion brwdfrydig a chryf eu cymhelliad i ymuno â'n carfan o weithwyr gofal cymdeithasol er mwyn bod yn gefn i unigolion ag anableddau dysgu mewn gwasanaeth seibiant yn y gymuned.
Byddai profiad o fod yn gefn i bobl ag anableddau dysgu yn ddymunol ond nid yn hanfodol, gan y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddod â'u sgiliau a'u profiadau nhw'u hunain i'r rôl. Byddwch chi'n dilyn rhaglen ymsefydlu ac yn ymgymryd â hyfforddiant parhaus, ynghyd â bod yn destun goruchwyliaeth barhaus er mwyn gweithio mewn modd effeithiol. Bydd angen cymhwyster Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Lefel 2 arnoch chi, neu ddangos ymrwymiad i ennill y cymhwyster hwnnw.
Oherwydd bod y gwasanaethau ar gael 365 diwrnod y flwyddyn, bydd gofyn i chi weithio ystod o sifftiau, gan gynnwys nosweithiau, dros nos (ar ddi-hun), penwythnosau a gwyliau banc gan gynnwys y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Bydd hefyd gofyn i chi wneud dyletswyddau cysgu dros nos, a byddwch yn derbyn taliadau ychwanegol am y rhain.
Oherwydd gofynion Deddf Safonau Gofal 2000, rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed.
Am ragor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol am y rôl, ffoniwch Debra Jones, Rheolwraig Gofrestredig – Beech Cottage ar (01443) 479907 neu Leah Sullivan, Rheolwraig Gofrestredig – Ystrad Fechan Bungalow ar (01443 776007)
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeiswyr llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.