Sut i glirio'r storfa yn Internet Explorer

Internet Explorer 6.0
Er mwyn datrys y broblem hon, ewch i:

  • ‘Tools’ yn y bar offer ar frig y dudalen.
  • ‘Internet Options’.




Cliciwch ar y tab ‘General’.



  • Cliciwch ar ‘Settings’ yn yr adran ‘Temporary Internet Files’.
  • Mae pedwar opsiwn ym mhen uchaf y ffenestr.
  • Gwnewch yn siŵr bod ‘Automatically’ wedi'i ddewis.





Cliciwch ar ‘OK’.


Internet Explorer 5.0

Er mwyn goresgyn y broblem hon:
  • Ewch i ‘Tools’.
  • Cliciwch ar ‘Internet Options’.




Yn y ffenestr ‘Internet Options’, cliciwch ar y tab ‘General’, ac yn yr adran ‘Temporary Internet Files’ cliciwch ar ‘Delete Files’.



Cliciwch ar ‘OK’ er mwyn ‘Delete all files in the Temporary Internet Files’.



  • Cliciwch ar y botwm ‘Settings’ wrth ymyl y botwm ‘Delete Files’.
  • Ewch i'r ffenestr ‘Check for newer versions of stored pages’ a dewiswch ‘Automatically’.




Yn yr adran ‘Temporary Internet Files Folder’, gosodwch ‘Amount of disk space to use’ ar 100 MB neu lai.

  • Cliciwch ar ‘OK’ er mwyn cau'r ffenestr ‘Settings’.
  • Cliciwch ar ‘OK’ yn y ffenestr ‘Internet Options’.