Gweld swydd wag -- Rheolwr ar Ddyletswydd – Canolfan Hamdden Llantrisant
Mae cyfle wedi codi i ddod yn aelod allweddol o'r garfan reoli yn un o gyfleusterau hamdden mwyaf prysur RhCT.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu'r Rheolwr Hamdden i sicrhau bod y cyfleuster yn cael ei reoli'n effeithiol ac yn effeithlon bob dydd. Bydd angen sgiliau arwain a gweithio mewn tîm ardderchog i sicrhau y caiff staff gyflawni safonau uchel o wasanaethau i gwsmeriaid, a hynny yn unol â'r holl weithdrefnau gweithredol. Bydd angen i chi fod yn gryf eich cymhelliant, meddu ar ddull hyblyg o weithio oriau, gallu ymgymryd â sawl tasg ar yr un pryd a gallu meddwl am syniadau'n gyflym mewn cyfleuster hamdden a ffitrwydd sy'n ffynnu.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Gary Dalton, Rheolwr Hamdden, ar (01443) 224616.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.