Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymorth Ymyriadau

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 6
£21,166
Amser Llawn Parhaol

Bydd Gweithiwr Cymorth Ymyriadau (Meisgyn) yn gweithio yng Nghanolfan Glyncornel, sy'n rhan o wasanaethau sy'n hyrwyddo sefydlogrwydd lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifainc ledled Rhondda Cynon Taf sy'n wynebu anawsterau yn eu bywydau. Mae gan y garfan staff ymroddgar dros ben sy'n gweithio mewn partneriaeth â phlant, pobl ifainc, eu teuluoedd ac eraill i gynllunio a gweithredu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan ganolbwyntio ar y teulu a gan gadw at amserlen ddwys a phenodol. Mae'r gwasanaeth ar gyfer plant sydd ar fin dod o dan adain y Cyngor, neu sydd o dan adain y Cyngor ar hyn o bryd ac ar fin dychwelyd adref.   

Mae'r garfan yn chwilio am ymarferwr brwdfrydig a fyddai'n mwynhau'r her o weithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifainc a'u teuluoedd. Byddwch yn rhan o garfan sy'n ymrwymedig at gyflawni'r deilliannau gorau ar gyfer plant a phobl ifainc. Yn ddelfrydol, bydd gyda chi'r gallu i ennill ymddiriedaeth a hyder plant a phobl ifainc, a'u rhieni/cynhalwyr. Byddwch yn meddu ar sgiliau ardderchog o ran cyfathrebu ac ymagwedd hyblyg a llawn dychymyg. Byddwch chi'n gallu meddwl yn gwbl rydd wrth fodloni anghenion cymhleth rhai plant, pobl ifainc a'u teuluoedd/cynhalwyr.

Mae profiad o weithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifainc a'u teuluoedd/cynhalwyr, yn ogystal ag  agwedd hyblyg at oriau gwaith yn hanfodol, gan gynnwys gweithio nosweithiau, penwythnosau a theithiau preswyl pan fo angen.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd yma, ffoniwch Sarah Longhurst, Rheolwr Carfan Datblygu a Chyflawniad, ar (01443) 420940.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37 awr yr wythnos
Glyncornel Centre
Nant-Y-Gwyddon Road
Llwynypia
CF40 2JF
10 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.