Gweld swydd wag -- Dadansoddwr Rhestrau Priffyrdd Cynorthwyol

Gweinyddol a chlerigol
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd 6
£21,166
Amser Llawn Parhaol

Rydyn ni'n chwilio am Ddadansoddwr Rhestrau Priffyrdd Cynorthwyol i ymuno ag Isadran Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd, sy'n rhan o Uwchadran y Priffyrdd a Gwasanaethau Gofal y Strydoedd.

O'ch penodi i'r swydd, bydd gofyn i chi gynorthwyo'r Uwch Beirianwyr, Peirianwyr y Priffyrdd a'r Dadansoddwr Rhestrau Priffyrdd â chynnig Gwasanaeth Isadeiledd y Priffyrdd o safon uchel.

Mae profiad o raglenni TGCh, yn enwedig cronfeydd data a systemau mapio sy'n gysylltiedig â rheoli/cynnal priffyrdd yn ddymunol iawn.

Bydd dyletswyddau a phrif swyddogaethau'r swydd yn cynnwys:

  • Cefnogi Rheolwr Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd i reoli a chynnal y cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn ogystal â'r gronfa ddata Rheoli Asedau
  • Cynorthwyo i ddatblygu systemau cyfrifiadurol y gwasanaeth presennol sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw Ffyrdd, Llwybrau Troed, Goleuadau Stryd ac Adeileddau a Chynnal Arwyddion Traffig
  • Cynorthwyo'r Uwch Beirianwyr i gynnal eu cyllidebau priodol, mewnbynnu anfonebau a darparu adroddiadau gwariant / incwm ayyb
  • Cynorthwyo i lunio adroddiadau rheoli a chyflawniad a dangosyddion cyflawniad allweddol sy'n gysylltiedig â phob agwedd ar gynnal a chadw priffyrdd
  • Ymateb i gwynion, ymholiadau a cheisiadau am wasanaeth yn unol â pholisïau a chanllawiau'r Cyngor.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swydd yma, ffoniwch naill ai Mr Huw Jenkins, Rheolwr Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd, ar (01443) 494801 neu Mr Dan Bond, Rheolwr Gwasanaeth Isadeiledd y Priffyrdd, ar (01443) 494793.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
18 Mawrth 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.