Gweld swydd wag -- Ymgynghorydd Ymateb ar Unwaith

Gofal i Gwsmeriaid
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Ffyniant a Datblygu
Gradd 6
£21,166
Amser Llawn Parhaol

Mae’r Cyngor yn ymroi i wella darpariaeth gwasanaeth rheng flaen drwy’r amser. Mae hyn yn adlewyrchu ein dyhead i gynnal gwasanaeth mwy integredig, gofynion cynyddol o du’r cyhoedd, a’n hymroddiad i greu sefydliad mwy hygyrch gyda pherthynas fwyfwy positif â’r bobl leol.

Mae swyddi ar gael yn rhan o'r Gyfadran Gofal i Gwsmeriaid yn blaenoriaethu, trin a gweithredu galwadau o fewn ein Gwasanaeth Ymateb ar Unwaith ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion.

Byddwch chi'n derbyn galwadau gan oedolion sy'n dymuno defnyddio gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ar draws Rhondda Cynon Taf ac yn eu trosglwyddo yn unol â'r prosesau a'r protocolau yn ôl yr angen. Byddwch chi hefyd yn cysylltu â defnyddwyr y gwasanaeth, yn unol ag agwedd ataliol tuag at eu hiechyd a'u lles.

Byddwch chi'n gweithio oriau sy'n rhan o amserlen gylchol sy'n sicrhau bod y gwasanaeth ar gael rhwng 8.30am a 6.30pm, Llun - Gwener.

Rhaid bod gyda chi sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn enwedig technegau ffôn.  Rhaid eich bod chi'n gallu defnyddio systemau TG yn effeithiol. Mae profiad o weithio'n rhan o garfan ac mewn amgylchedd Canolfan Alwadau hefyd yn ofynnol.

Byddwch chi'n unigolyn cadarnhaol, gydag agwedd benderfynol ac awydd i ddarparu gwasanaeth arbennig ar gyfer cwsmeriaid.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Chris Phillips, Rheolwr y Gwasanaethau Cynghori ar (01443) 425034.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Contact Centre
Ty Elai
Dinas Isaf East
CF40 1NY
7 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.