Gweld swydd wag -- Swyddog Gwasanaethau Profedigaeth

Gweinyddol a chlerigol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 7
£23,836
Amser Llawn Parhaol

Mae swydd wag ar gyfer Swyddog Gwasanaethau Profedigaeth wedi codi yn y Gwasanaethau Profedigaethau.  Mae'r swydd yn cynnwys gwaith gweinyddol Mynwentydd ac Amlosgfeydd yr Awdurdod Lleol.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd, i Drefnwyr Angladdau, Clerigwyr a Seiri Cerrig Beddau yn gryno, yn eglur ac yn gywir.

Bydd gyda chi ymrwymiad cryf at ofal i gwsmeriaid, sgiliau trefnu a chyfathrebu arbennig a bydd raid ichi ddilyn cyfraith statudol, rheoliadau a pholisïau'r cyngor. Prif ddiben y swydd yw sicrhau bod holl elfennau gweinyddol Gwasanaethau Profedigaethau yn cael eu cwblhau'n gywir ac yn brydlon ar bob adeg.

Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd, ffoniwch Ceri Pritchard ar 01685 874115 neu Jayne Beer ar 01443 402810.

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Llwydcoed Crematorium / Glyntaff Crematorium
Llwydcoed / Glyntaff
Aberdare / Pontypridd
CF44 0DJ / CF37 4BE
9 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.