Gweld swydd wag -- Gweithiwr Datblygu Chwarae
Mae carfan Datblygu Chwarae newydd wedi cael ei sefydlu yn rhan o Wasanaeth Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned. Rydyn ni eisiau penodi Gweithiwr Chwarae profiadol i'r swydd Datblygu Chwarae.
Byddwch chi'n gyfrifol am gefnogi datblygiad darpariaeth chwarae o safon ledled y Fwrdeistref Sirol er mwyn sicrhau'r deilliannau gorau posibl ar gyfer plant a phobl ifainc 5-14 oed.
Byddwch chi'n dangos bod gyda chi wybodaeth a dealltwriaeth eang o bwysigrwydd chwarae ymysg plant a phobl ifainc. Bydd gyda chi hefyd brofiad o weithio gyda sefydliadau gwirfoddol a phreifat yn y gymuned.
Mae'n ofynnol bod gyda chi gymhwyster Chwarae Lefel 3, ond os dydy'r cymhwyster yma ddim gyda chi, bydd disgwyl i chi ymgymryd â'r cymhwyster cyn pen 12 mis ar ôl cael eich penodi i'r swydd hon.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Gail Beynon, Rheolwr Datblygu Chwarae ar (01443) 281437.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.