Croeso

Bydd gan y Cyngor wefan recriwtio newydd o ddydd Llun 3 Ebrill

Mae gwefan recriwtio newydd y Cyngor ar gael nawr. Yn yr un modd ag o'r blaen, bydd modd i ymgeiswyr weld ac ymgeisio am swyddi ar-lein a derbyn diweddariadau ar geisiadau sydd wedi'u cyflwyno.

Cliciwch yma i weld y wefan newydd.

Bydd rhaid i ymgeiswyr newydd a blaenorol greu cyfrif newydd cyn ymgeisio.

Fydd y wefan yma ddim ar gael mwyach ar ôl 28 Ebrill a bydd yr holl wybodaeth yn ymwneud â'r cyfrif yn cael ei dileu. Yn unol â rheoliadau diogelu data, fydd y Cyngor na darparwr y wefan ddim yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol sydd wedi'i chyflwyno.

Bydd unrhyw geisiadau sydd wedi’u cyflwyno ar y wefan yma'n parhau i gael eu rheoli yma hyd at 28 Ebrill - bydd modd i ymgeiswyr weld eu ffurflenni cais, cael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu cais a threfnu cyfweliadau hyd at y dyddiad yma. Os bydd y broses recriwtio ar gyfer unrhyw swydd yn ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw, bydd yr wybodaeth ddiweddaraf a threfniadau amgen yn cael eu rhannu gydag ymgeiswyr drwy e-bost.

Diolch am alw heibio ein Gwefan Recriwtio. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais.


Uwchadran Adnoddau Dynol
Cyngor Rhondda Cynon Taf