Mae cyfrif gennych chi yn barod

Ydych chi eisoes wedi llenwi ffurflen gais? Os ydych, defnyddiwch yr un manylion mewngofnodi ar gyfer pob ffurflen gais.

Sut i gael gwybod a oes cyfrif gennych chi yn barod

Os dydych chi ddim yn siŵr a oes cyfrif gennych chi yn barod, neu eich bod chi'n wynebu problemau o ran cofrestru eich cyfeiriad e-bost, mae'n bosibl eich bod chi eisoes wedi sefydlu cyfrif â ni. Defnyddiwch y cyswllt perthnasol er mwyn derbyn nodyn atgoffa o'ch cyfrinair.

Fel arall, mae'n bosibl y byddwch chi'n gweld y neges ganlynol bob tro y byddwch chi'n ceisio mewngofnodi:

‘Rydyn ni wedi sylwi bod enw defnyddiwr a chyfrinair gennych chi yn barod.

Mae'r ffurflen gais hon yn eich galluogi chi i fewnforio unrhyw wybodaeth gyffredin, megis manylion personol ac addysg, felly des dim eisiau i chi aildeipio.

Os ydych chi wedi anghofio'ch manylion mewngofnodi, cliciwch ar y cyswllt ‘Nodyn atgoffa o gyfrinair’ ar ochr dde y dudalen hon a byddwn ni'n anfon nodyn atgoffa atoch chi.’

Os ydych chi, am unrhyw reswm, wedi defnyddio'r un cyfeiriad e-bost er mwyn sefydlu mwy nag un cyfrif, dydy hyn ddim yn golygu bod yr un enw defnyddiwr gennych chi ar gyfer pob un.

Os mai'ch enw defnyddiwr ar gyfer y cyfrif cyntaf yw:
5andra@derbusbahnof.com

Mae'n bosibl mai'ch enw defnyddiwr ar gyfer yr ail gyfrif yw:
5andra@derbusbahnhof.com1

Os oes mwy nag un cyfrif gennych chi, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio'r un cyfrif ar gyfer pob cais. Os byddwch chi'n dechrau llenwi ffurflen gais mewn un cyfrif, fyddwch chi ddim yn gallu cael mynediad iddi drwy fewngofnodi i gyfrif arall. Yn yr un modd, fydd mewngofnodi i'ch ail gyfrif ddim yn eich galluogi chi i gael mynediad i ffurflen gais sydd wedi'i dechrau yn eich cyfrif cyntaf.

Pynciau perthnasol