Gweld swydd wag -- Mecanig Moduron
Gofal y Strydoedd – Gwasanaethau Cerbydau
Mae Gwasanaethau Cerbydau'r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw tua 400 o gerbydau'r Cyngor. Maen nhw'n amrywio o faniau bychain i lorïau sbwriel 26 tunnell. Mae'r Gwasanaeth yn gofalu bod pob cerbyd yn cael ei gynnal a'i gadw yn unol â rheoliadau VOSA a'i fod yn addas ar gyfer darparu amryw wasanaethau'r Cyngor.
Rhaid i chi fod yn dechnegydd cerbydau cymwysedig, neu fod wedi bwrw prentisiaeth. Rhaid i chi feddu ar sgiliau arwain a threfnu rhagorol. Bydd raid i chi ymgymryd â hyfforddiant pan fo angen i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gyflawni.
Byddwch chi'n gweithio yn unol â gweithdrefnau'r Cyngor a Rheolwyr. Byddwch chi hefyd yn gofalu bod unrhyw waith cynnal a chadw a chyweirio yn cael ei gwblhau mewn da bryd a bod y gwaith papur yn cael ei gwblhau yn gywir.
Dyma swydd 37 awr yr wythnos yn seiliedig ar ddwy sifft:
Wythnos 1: 06:00 - 14:00 Dydd Llun i Ddydd Iau
06:00 - 13:30 Dydd Gwener
Wythnos 2: 13:30 - 21:30 Dydd Llun i Ddydd Iau
11:30 - 19:00 Dydd Gwener
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Peter Davies, Rheolwr Gweithdy/Contractau Cerbydau'r Cyngor ar (01443) 827353.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymdeithas.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.