Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymdeithasol – Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 11
£34,788 ynghyd â thaliad atodol ar sail y farchnad sy'n daladwy ar ôl y flwyddyn gyntaf o ymarfer. Bydd £1,000 yn daladwy ar gyfer blwyddyn 2, ac yna £1,000 yn ychwanegol ar gyfer blwyddyn 3. Bydd y taliad yma ar sail pro rata bob mis
Amser Llawn Parhaol

Mae Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc Cwm Taf (Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful) yn wasanaeth aml-asiantaeth a’i brif nod yw atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu ac aildroseddu ymhlith pobl ifainc. Yn rhan o'r Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc, byddwch chi'n darparu amryw wasanaethau cyfiawnder ieuenctid integredig ac ymyriadau ar gyfer pobl ifainc a'u teuluoedd. O'ch penodi i'r swydd, fe fyddwch chi’n rhan o garfan brofiadol sy’n rhoi cymorth a goruchwyliaeth o’r radd uchaf i chi a chyfleoedd ar gyfer datblygu'n broffesiynol. A ninnau'n garfan aml-asiantaeth, rydyn ni wedi cymhathu’n rhan o drefn Strategaeth Cymunedau Diogel a Strategaeth Gwasanaethau i Blant. O ganlyniad i hynny, mae nifer o gynlluniau blaengar ar waith i’n cynorthwyo ni i gyrraedd ein nod.

Byddwch yn ymuno â charfan Merthyr Tudful, sy mewn llety o ansawdd da mewn lleoliad cyfleus yn y Llysoedd Barn, Merthyr Tudful.

Bydd angen i ymgeiswyr ddarparu cymorth i bobl ifainc sy'n rhan o'r System Cyfiawnder Ieuenctid ac sy'n dangos ymddygiad heriol, gwrthgymdeithasol a throseddol. Gyda chymhwyster proffesiynol (Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol, CQSW, CSS) a phrofiad o weithio gyda phobl ifainc, byddwch o hyd yn defnyddio a datblygu eich gwybodaeth o ddeddfwriaeth cyfiawnder troseddol, arfer cyfiawnder ieuenctid, datblygu polisi a materion cyfleoedd cyfartal. Bydd angen i chi fod yn hyderus a chyfathrebu'n eglur er mwyn gweithio mewn llys. Bydd raid i chi allu paratoi adroddiadau clir a chryno.

Dyma wasanaeth ar gyfer ardal gyfan Cwm Taf, felly cewch chi ddisgwyl gweithio ledled siroedd Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Steph Webber, Rheolwr Gweithrediadau, ar (01685) 724960.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

 

37
Law Courts
Glebeland Place
Castle Street
CF47 8BU
4 Tachwedd 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.