Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Rheoli Plâu ac Anifeiliaid Dan Brentisiaeth - Swydd dros dro

Prentisiaethau
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Isafswm Cyflog
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Cyfnod Penodol

Cynllun Prentisiaeth Cyngor RhCT 2020

Prentisiaeth gyda Chyngor RhCT yw'r cam cyntaf yn eich taith at gyfleoedd gyrfa ardderchog.

Mae Cynllun Prentisiaeth y Cyngor 2020 yn cynnig cyfleoedd gwaith cyffrous mewn nifer o feysydd gwasanaeth gwahanol.  

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ceisio penodi Swyddog Rheoli Plâu ac Anifeiliaid Dan Brentisiaeth i weithio'n rhan o'i Garfan Rheoli Plâu ac Anifeiliaid yn Uwchadran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned.

Mae'r Garfan Rheoli Plâu ac Anifeiliaid am benodi Prentis i ddysgu'r sgiliau angenrheidiol i weithio'n Swyddog Rheoli Plâu a/neu Warden Anifeiliaid. Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn ennill gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Buddion:

  • Hyfforddiant mewnol, rhaglen sefydlu wedi'i theilwra, gofal a chymorth bugeiliol;
  • Cewch eich talu wrth i chi ddysgu;
  • Mae'r pecyn buddion yn cynnwys pensiwn, 25 diwrnod o wyliau blynyddol, ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn RhCT, a chynllun buddion staff.     

Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Ionawr 2021. Byddwch chi'n cael eich talu Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran: 

  • 25 oed a hŷn                                                £8.72                                       21-24    £8.20
  • 18-20                       £6.45              O dan 18 oed        £4.55

O ganlyniad i feini prawf prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch. Er enghraifft, os oes gennych chi radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais am swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Fodd bynnag, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swyddi yma, anfonwch ebost at y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant i'r cyfeiriad yma: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk

37
Ty Elai
Williamstown
Tonypandy
CF40 1NY
1 Rhagfyr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.