Gweld swydd wag -- Gweithiwr Ieuenctid dan Brentisiaeth - swydd dros dro

Prentisiaethau
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Isafswm Cyflog
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Cyfnod Penodol

Cynllun Prentisiaeth Cyngor RhCT 2020

Prentisiaeth gyda Chyngor RhCT yw'r cam cyntaf yn eich taith at gyfleoedd gyrfa ardderchog.

Mae Cynllun Prentisiaeth y Cyngor 2020 yn cynnig cyfleoedd gwaith cyffrous mewn nifer o feysydd gwasanaeth gwahanol.  

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi Gweithiwr Cymorth i Bobl Ifainc Dan Brentisiaeth i weithio yn ei Wasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogi Ieuenctid yn rhan o adran Gwasanaethau i Blant.

Bydd y swydd yn gyfle i weithio ochr yn ochr ag aelodau o staff profiadol. Bydd yn gyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau gwaith ieuenctid a fydd yn mynd law yn llaw â datblygiad proffesiynol. Bydd y swydd hefyd yn gyfle i chwarae rhan bwysig wrth gynnal darpariaeth gwasanaethau i bobl ifainc o ansawdd uchel.

Mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn chwilio am unigolion sy'n frwdfrydig ac yn angerddol dros ddarparu cymorth a chyfleoedd i bobl ifanc ledled Rhondda Cynon Taf. Byddwch chi gyda chydweithwyr profiadol, ac yn ennill gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu, a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Buddion:

  • Hyfforddiant mewnol, rhaglen sefydlu wedi'i theilwra, gofal a chymorth bugeiliol;
  • Cewch eich talu wrth i chi ddysgu;
  • Mae'r pecyn buddion yn cynnwys pensiwn, 25 diwrnod o wyliau blynyddol, ffïoedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn RhCT, a chynllun buddion staff.     

Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Ionawr 2021. Byddwch chi'n cael eich talu Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:

  • 25 oed neu'n hŷn                 £8.72              21-24 oed              £8.20
  • 18 - 20                       £6.45              O dan 18        £4.55

O ganlyniad i feini prawf Prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch. Er enghraifft, os oes gradd gyda chi mewn Gwaith Ieuenctid a Chymuned fyddwch chi ddim yn gymwys i wneud cais am y swydd brentisiaeth yma. Fodd bynnag, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r swyddi yma, anfonwch ebost at y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant i'r cyfeiriad yma: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
1 Rhagfyr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.