Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Twristiaeth ac Achlysuron dan Brentisiaeth Dros Dro

Prentisiaethau
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Ffyniant a Datblygu
Isafswm Cyflog
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Cyfnod Penodol

Cynllun Prentisiaeth Cyngor RhCT 2020

Mae prentisiaeth gyda Chyngor RhCT yn gam cyntaf o'ch taith tuag at gyfleoedd gyrfa ardderchog.

Mae Cynllun Prentisiaeth y Cyngor 2020 yn cynnig cyfleoedd gwaith cyffrous mewn nifer o feysydd gwasanaeth gwahanol.  

Eleni, mae Adran Twristiaeth ac Achlysuron y Cyngor yn cynnig cyfle i brentis weithio mewn rôl rheng flaen. Bydd y prentis yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes wrth weithio. Bydd y brentisiaeth yma'n gyfle delfrydol i gael goleuni pellach ar weithio yn y ddau sector, a meithrin profiad ynddyn nhw. Rhaid i ymgeiswyr fod â diddordeb yn y sector trefnu achlysuron a thwristiaeth, bod yn ymrwymedig i waith y sector, a bod yn barod i weithio ar benwythnosau o bryd i'w gilydd.

Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn ennill gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Buddion:  

  • Hyfforddiant mewnol, rhaglen sefydlu wedi'i theilwra, gofal a chymorth bugeiliol
  • Cewch eich talu wrth i chi ddysgu
  • Mae'r pecyn buddion yn cynnwys pensiwn, 25 diwrnod o wyliau blynyddol, ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn RhCT, cynllun buddion staff

Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Ionawr 2021. Byddwch yn cael eich talu Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran: 

  • 25 oed neu'n hŷn              £8.72           21–24              £8.20
  • 18–20 oed                        £6.45          Dan 18 oed     £4.55

O ganlyniad i feini prawf prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch. Er enghraifft, os oes gennych radd mewn Peirianneg Sifil, nid ydych chi'n gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Fodd bynnag, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath.

Am ragor o wybodaeth am y swyddi yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
The Pavilions
Cambrian Park
Clydach Vale
CF40 2XX
1 Rhagfyr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.