Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Pensiynau dan Brentisiaeth dros dro

Prentisiaethau
Prif Weithredwr
Adnoddau Dynol
Isafswm Cyflog
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Cyfnod Penodol

Cynllun Prentisiaeth Cyngor RhCT 2020

Mae Prentisiaeth gyda Chyngor RhCT yn gam cyntaf o'ch taith tuag at gyfleoedd gyrfa ardderchog.

Mae Cynllun Prentisiaeth y Cyngor 2020 yn cynnig cyfleoedd gwaith cyffrous mewn nifer o feysydd gwasanaeth gwahanol.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf am benodi Cynorthwy-ydd Pensiynau dan Brentisiaeth (Gweinyddu Systemau) i weithio yn Adran y Prif Weithredwr.

Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Nhŷ Oldway, y Porth. Mae'r Gwasanaeth Pensiynau yn ymgymryd â gwaith gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) a Chynllun Pensiwn Ymladdwyr Tân, sy'n cynnwys prosesu pob math o fuddion pensiwn ar gyfer pob categori o aelodaeth gwahanol. Mae'r prif ddyletswyddau swyddfa cyffredinol yn cynnwys cefnogi'r Gwasanaeth Pensiynau gyda'r feddalwedd benodol ar gyfer pensiynau a systemau Microsoft cyffredinol fel Excel, Word ac Access. Maen nhw hefyd yn cynnwys prosesu'r post a gohebiaeth electronig, mewnbynnu data yn rheolaidd a pharatoi/cynnal cofnodion electronig ar y system gweinyddu pensiynau a llif gwaith.

Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn ennill gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi cyfle i chi ennill cyflog wrth ddysgu a gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes.

Buddion:  

  • Hyfforddiant mewnol, rhaglen sefydlu wedi'i theilwra, gofal a chymorth bugeiliol
  • Cewch eich talu wrth ddysgu
  • Mae'r pecyn buddion yn cynnwys pensiwn, 25 diwrnod o wyliau blynyddol, ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn RhCT, a chynllun buddion i staff   

Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Ionawr 2021. Byddwch yn cael eich talu Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran: 

  • 25 oed neu'n hŷn                 £8.72              21-24oed              £8.20
  • 18-20oed                             £6.45              Dan 18 oed          £4.55 

O ganlyniad i feini prawf prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch. Er enghraifft, os oes gennych radd mewn Peirianneg Sifil, dydych chi ddim yn gymwys i wneud cais am swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Fodd bynnag, cewch chi wneud cais am unrhyw swydd brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth am y swyddi yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Oldway House
Porth Street
Porth
CF39 9ST
1 Rhagfyr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.