Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Gwybodaeth am Eiddo Dan Brentisiaeth Dros Dro

Prentisiaethau
Prif Weithredwr
Eiddo'r Cyngor
Isafswm Cyflog
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Cyfnod Penodol

Cynllun Prentisiaeth Cyngor RhCT 2020

Prentisiaeth gyda Chyngor RhCT yw'r cam cyntaf yn eich taith at gyfleoedd gyrfa ardderchog.

Mae Cynllun Prentisiaeth y Cyngor 2020 yn cynnig cyfleoedd gwaith cyffrous mewn nifer o feysydd gwasanaeth gwahanol.  

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf am benodi Cynorthwy-ydd Gwybodaeth am Eiddo dan Brentisiaeth i weithio o fewn Adran y Prif Weithredwr.

Mae'r garfan Eiddo yn chwilio am unigolyn i gefnogi gyda chasglu a darparu gwybodaeth o safon uchel. Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn ennill gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Buddion:  

  • Hyfforddiant mewnol, rhaglen sefydlu wedi'i theilwra, gofal a chymorth bugeiliol.
  • Cewch eich talu wrth i chi ddysgu;
  • Mae'r pecyn buddion yn cynnwys pensiwn, 25 diwrnod o wyliau blynyddol, ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn RhCT, a chynllun buddion staff.     

Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi 2020. Byddwch yn cael eich talu Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran: 

  • 25 oed neu'n hŷn              £8.72           21-24              £8.20
  • 18 - 20                       £6.45              O dan 18        £4.55 

O ganlyniad i feini prawf prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch. Er enghraifft, os oes gennych radd mewn Peirianneg Sifil, nid ydych chi'n gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Fodd bynnag, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth am y swyddi yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
1 Rhagfyr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.