Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd dros dro yr ystafell ffitrwydd dan brentisiaeth.

Prentisiaethau
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Isafswm Cyflog
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Cyfnod Penodol

Cynllun Prentisiaeth Cyngor RhCT 2020

Prentisiaeth gyda Chyngor RhCT yw'r cam cyntaf yn eich taith at gyfleoedd gyrfa ardderchog.

Mae Cynllun Prentisiaeth y Cyngor 2020 yn cynnig cyfleoedd gwaith cyffrous mewn nifer o feysydd gwasanaeth gwahanol.  

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi 2 Gynorthwy-ydd Ffitrwydd dan brentisiaeth wedi'u lleoli yn ein cyfleuster newydd sbon sef Llys Cadwyn ym Mhontypridd.

Bydd y rôl yn gyfle gwych i weithio ochr yn ochr ag aelodau o staff profiadol, a datblygu sgiliau i fod yn weithiwr proffesiynol cymwys gyda chymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol. Byddwch chi'n ennill cymwysterau ymarfer corff a ffitrwydd ac yn hyfforddi dosbarthiadau ymarfer corff.

Mae'r Garfan Gweithrediadau Hamdden yn chwilio am unigolion brwdfrydig a threfnus sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol, personoliaeth allblyg a hyderus, sy'n aelodau gwych o garfan, ac sy'n angerddol dros weithio mewn amgylchedd sy'n newid yn barhaus. Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn ennill gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Buddion:  

  • Hyfforddiant mewnol, rhaglen sefydlu wedi'i theilwra, gofal a chymorth bugeiliol.
  • Cewch eich talu wrth i chi ddysgu;
  • Mae'r pecyn buddion yn cynnwys pensiwn, 25 diwrnod o wyliau blynyddol, ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn RhCT, a chynllun buddion staff.     

Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Ionawr 2021. Byddwch yn cael eich talu Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran: 

  • 25 oed neu'n hŷn              £8.72           21-24              £8.20
  • 18 - 20 oed                        £6.45            Dan 18 oed        £4.55 

O ganlyniad i feini prawf prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch. Er enghraifft, os oes gyda chi CYQ Lefel 3 neu gymhwyster academaidd cyfatebol, fyddwch chi ddim yn gymwys i wneud cais am swydd fel Cynorthwy-ydd Ffitrwydd dan brentisiaeth. Fodd bynnag, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob ran o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â'r swyddi yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant i'r cyfeiriad yma: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.



Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch yn clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Llys Cadwyn
Pontypridd
RCT
CF37 4TG
1 Rhagfyr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.