Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Data a Gwybodaeth Reoli dan Brentisiaeth - swydd dros dro

Prentisiaethau
Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant
Gwasanaethau Gwella Addysg
Isafswm Cyflog
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Cyfnod Penodol

Cynllun Prentisiaeth Cyngor RhCT 2020

Mae Prentisiaeth gyda Chyngor RhCT yn gam cyntaf o'ch taith tuag at gyfleoedd gyrfa ardderchog.

Mae Cynllun Prentisiaeth y Cyngor 2020 yn cynnig cyfleoedd gwaith cyffrous mewn nifer o feysydd gwasanaeth gwahanol.  

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Data a Gwybodaeth Reoli Dan Brentisiaeth i weithio yn rhan o'i garfan materion Trawsnewid a Data sy'n rhan o'r Uwchadran Gwasanaethau Gwella Addysg.

Mae llawer o gynnydd wedi cael ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran lleihau nifer y systemau data sy'n cael eu defnyddio. O ganlyniad i hynny, mae yna fwy o alw nag erioed am ddata'r gwasanaeth. Felly, mae angen cynyddu argaeledd sgiliau ym meysydd cynhyrchu a defnydd. Mae'r garfan Trawsnewid a Data yn chwilio am unigolyn sydd â diddordeb mewn dysgu a gweithio gyda data a gwybodaeth reoli. Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn ennill gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa.

Buddion:  

  • Hyfforddiant mewnol, rhaglen sefydlu wedi'i theilwra, gofal a chymorth bugeiliol;
  • Cewch eich talu wrth ddysgu;
  • Mae'r pecyn buddion yn cynnwys pensiwn, 25 diwrnod o wyliau blynyddol, ffioedd aelodaeth rhatach i Ganolfannau Hamdden yn RhCT, a chynllun buddion i staff.     

Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Ionawr 2021. Byddwch yn cael eich talu Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:

 

  • 25 oed neu'n hŷn                    £8.72              21-24 oed              £8.20
  • 18 - 20 oed                        £6.45              Dan 18 oed        £4.55

O ganlyniad i feini prawf prentisiaethau, allwn ni ddim derbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch. Er enghraifft, os oes gennych radd mewn Peirianneg Sifil, nid ydych chi'n gymwys ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Fodd bynnag, cewch chi wneud cais am unrhyw swydd brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Am ragor o wybodaeth am y swyddi yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb, ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
1 Rhagfyr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.