Gweld swydd wag -- Uwch Gynorthwy-ydd Iechyd a Diogelwch

Iechyd a diogelwch
Prif Weithredwr
Adnoddau Dynol
Gradd 8
£26,317
Amser Llawn Parhaol

Cyngor Rhondda Cynon Taf yw un o'r cynghorau mwyaf yng Nghymru gyda thua 11000 o weithwyr. Mae'r Cyngor yn gyfrifol am ddarparu ystod eang o wasanaethau, sy'n cynnwys addysg, gofal cymdeithasol, priffyrdd, gwastraff ac ailgylchu, hamdden a pharciau. Rydyn ni'n cydnabod pwysigrwydd diogelu ein gweithwyr ac eraill a allai gael eu heffeithio gan ein gwaith, ac rydyn ni'n disgwyl safonau uchel o ran iechyd a diogelwch. Mae'r Cyngor yn sefydliad sy'n cefnogi'i weithwyr ac mae'n cynnig telerau ac amodau hael, gan gynnwys buddion staff a chynlluniau gostyngiadau amrywiol.

Mae'r Cyngor yn chwilio am Uwch Gynorthwy-ydd Iechyd a Diogelwch i gefnogi gwaith y Garfan Iechyd a Diogelwch Corfforaethol. Mae'r garfan wedi'i lleoli yn yr Uwchadran Adnoddau Dynol ac mae'n darparu gwasanaeth iechyd a diogelwch cynhwysfawr ar draws y Cyngor. Mae hi'n garfan fach a bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus allu blaenoriaethu a rheoli llwyth gwaith prysur. Serch hynny, bydd y rôl yn gyfle gwych i chi ddatblygu eich gyrfa ym maes iechyd a diogelwch a bydd yn eich galluogi i weithio mewn ystod eang o feysydd gwasanaeth.

Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar Dystysgrif Gyffredinol NEBOSH (neu gyfwerth) ynghyd â phrofiad o:

  • darparu cyngor ac arweiniad iechyd a diogelwch;
  • datblygu polisïau a gweithdrefnau diogelwch;
  • ymchwilio neu archwilio i ddamweiniau;
  • cynhyrchu adroddiadau ystadegol.

Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol, ffoniwch Mike Murphy, Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch ar (01443) 425536.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Elai
Dinas Isaf East
Williamstown
CF40 1NY
21 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.