Gweld swydd wag -- Swyddog Cofrestru – Swydd Achlysurol

Gweinyddol a chlerigol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 6
£10.97 yr awr
Gweithwyr Dros Dro

Rydyn ni'n chwilio am staff achlysurol i weithio fel Swyddog Cofrestru yn y Swyddfa Gofrestru ym Mhontypridd. Rydyn ni'n chwilio am unigolion hyblyg, llawn cymhelliant, gyda sgiliau gofal cwsmer, sgiliau gweinyddol a sgiliau cyfathrebu rhagorol.

O'ch penodi i'r swydd, byddwch chi'n gyfrifol am gyflwyno dogfennau cyfreithiol, a rhoi cyngor a chymorth manwl gywir i gwsmeriaid yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd eich dyletswyddau yn cynnwys cynnal chwiliadau o gofnodion hanes teulu, trin arian parod a chysoni banciau, trefnu apwyntiadau yn electronig, cyflawni dyletswyddau statudol sy'n ymwneud â chofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau, partneriaethau sifil a seremonïau dinasyddiaeth. Byddwch chi hefyd yn cyflawni dyletswyddau ysgrifennydd/gweinydd yn ystod gwasanaethau anstatudol e.e. seremonïau enwi ac ail-gadarnhau addewidion ac unrhyw wasanaethau pellach a fydd yn cael eu cyflwyno gan y Cyngor.  Byddwch chi'n rhoi cymorth a chyngor i glerigwyr ac yn cadw cofnodion cywir o enillion a thaliadau. Disgwylir i chi hefyd fod yn gyfrifol am y dderbynfa a chyflawni dyletswyddau swyddfa cyffredinol.

Bydd raid i chi gynnal y safonau proffesiynol uchaf wrth gyflawni'r swydd yma a dilyn cod ymarfer Swyddogion Cofrestru'r Gwasanaeth Cofrestru.  Bydd rhaid i chi weithio dros y penwythnos a Gwŷl y Banc, neu fod ar alwad yn ôl y gofyn. Rhaid eich bod yn gallu teithio'n annibynnol drwy ardal y Cyngor. Byddai hefyd yn ddymunol pe bai gyda chi sgiliau Cymraeg o safon uchel a pharodrwydd i ymgymryd â chymhwyster y Cofrestrydd Cyffredinol tra yn y swydd.

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Sue Cunnick Cofrestrydd Arolygu (01443) 494024 neu drwy e-bost yn: susan.cunnick@rctcbc.gov.uk.


Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. O'r herwydd, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Achlysurol
The Register Office
Municipal Buildings
Gelliwastad Road
CF37 2DP
9 Ionawr 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.