Gweld swydd wag -- Therapydd Galwedigaethol yn y Gymuned

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Ymyrraeth Tymor Byr i Oedolion
Gradd 11
£34,788
Amser Llawn Parhaol

Carfan Addasu ac Offer y Gymuned (ACE)

Mae gyda ni gyfle cyffrous i Therapyddion Galwedigaethol ymuno â'n Carfan Addasu ac Offer yn y Gymuned (ACE) yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r garfan wedi'i lleoli yn Nhŷ Elái, ger Tonypandy, ac yn gweithio ar draws RhCT gan ddefnyddio trefniadau gweithio hyblyg/gartref.

Mae'r garfan yn rhan o Wasanaeth Tymor Byr blaengar, gan gynnwys y gwasanaethau Ailalluogi, Cymorth yn y Cartref, a Charfanau Gofal a Chymorth Synhwyraidd a Thymor Byr. Mae Carfan Addasu ac Offer yn y Gymuned (ACE) yn gweithio'n agos gyda'i chydweithwyr i sicrhau deilliannau cadarnhaol ar gyfer pobl. O'ch penodi i'r swydd byddwch chi'n ymuno â charfan brofiadol, sydd wedi ennill ei phlwyf, a fydd yn gallu eich cynorthwyo chi i wneud y gorau o'r cyfle yma.

Mae disgwyl, i'r Therapyddion Galwedigaethol y Gymuned yn y garfan yma chwarae rhan weithredol a bod yn aelod da o garfan,  gyda'r gallu i adnabod y cyfoeth o brofiad sydd ar gael iddyn nhw, a manteisio ar hynny, yn y Gwasanaethau Tymor Byr,  a'r brwdfrydedd i gymryd rhan weithredol wrth ddarparu gwasanaeth o safon uchel. Mae gwerthoedd cadarn, sgiliau cyfathrebu ardderchog ac agwedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gwbl hanfodol.

Bydd eich prif ddyletswyddau'n cynnwys asesu unigolion, yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (2014) i gefnogi annibyniaeth. Yn ogystal, mae carfan ACE yn rhan o fodel newydd a thrawsnewidiol o ofal a chymorth, o'r enw Cadw'n Iach Gartref, wedi'i gyllido gan Grant Trawsnewid Llywodraeth Cymru, sy'n ymateb i geisiadau am gymorth gan Weithwyr Proffesiynol yn y Gymuned, i alluogi unigolion i aros gartref a pheidio â mynd i'r ysbyty. Mae rôl y Therapydd Galwedigaethol yn rhan annatod o hyn ac mae'n cynnwys darparu cyngor, asesiadau Codi a Chario a darparu offer. A chithau'n Therapydd Galwedigaethol yn y garfan yma, bydd gofyn i chi weithio'n rhan o rota i gyflenwi ar gyfer y gwasanaeth rhwng 8.30am ac 8pm, 7 diwrnod yr wythnos (gan gynnwys Gwyliau Banc) 

Rhaid i chi fod yn Therapydd Galwedigaethol cymwys ac wedi'ch cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal. Byddai profiad o ymdrin â phroses Grant Cyfleusterau i'r Anabl yn fuddiol, ond dydy hyn ddim yn angenrheidiol gan y bydd hyfforddiant mewnol yn cael ei ddarparu. Mae croeso i Therapyddion Galwedigaethol profiadol a rhai sydd newydd gymhwyso gyflwyno cais, a byddwch chi'n cael cyfle i ddatblygu ystod o sgiliau clinigol mewn amgylchedd cefnogol. Bydd goruchwyliaeth, hyfforddiant a mentora rheolaidd yn cael ei ddarparu gan Uwch Therapydd Galwedigaethol.

Mae hon yn hysbyseb dreigl felly bydd ceisiadau yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar ôl eu derbyn a bydd cyfweliadau'n cael eu trefnu yn fuan wedi hynny.

Os hoffech chi ddysgu rhagor am y swydd yma, cysylltwch â Lynette Evans, Rheolwr y Garfan, drwy ebostio Lynette.M.Evans@rctcbc.gov.uk neu drwy ffonio 07898854232

Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Ty Elai
Dinas Isaf East
Williamstown
CF40 1NY
18 Awst 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.