Gweld swydd wag -- Cynhyrchydd Creadigol Cynorthwyol

Celfyddydau / Achlysuron / Twristiaeth
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 5
£19,698
Amser llawn dros dro

Dyma alw am ddarpar gynhyrchwyr! Mae Gwasanaeth Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Theatrau RhCT yn chwilio am Gynhyrchydd Creadigol Cynorthwyol i ymuno â'r garfan.

Rydyn ni'n chwilio am berson creadigol sydd wrth ei fodd yn troi syniadau'n realiti. Byddwch chi'n frwdfrydig am berfformio ac yn llawn cyffro i gefnogi a datblygu artistiaid. Byddwch chi hefyd wedi ymrwymo i wella mynediad pobl i'r celfyddydau ynghyd â ffyrdd y mae modd i bobl ymgysylltu â'r celfyddydau - yn enwedig ar gyfer y rheiny sydd, yn draddodiadol, wedi cael eu hanwybyddu.

Mae rôl Cynhyrchydd Creadigol Cynorthwyol yn un newydd sbon, ac yn dechrau ar adeg gyffrous iawn i Theatrau RhCT, gan fod llawer o'r ffyrdd rydyn ni'n gweithio yn newid.

Mae'r swydd yma'n rhan o Raglen Bwrsariaeth Greadigol Weston Jerwood sy'n cynnig cyfle i unigolyn, sydd wedi'i atal rhag dilyn gyrfa ym maes y Celfyddydau oherwydd ffactorau cymdeithasol ac economaidd, i weithio am 12 mis gyda thâl. Mae'r rôl wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer unigolyn yng nghamau cynnar ei yrfa greadigol.

Cwestiynau: Os oes unrhyw gwestiynau am y rôl neu'r broses ymgeisio gyda chi, byddwn ni'n cynnal sesiwn galw heibio anffurfiol ar Zoom ddydd Llun 22 Mawrth rhwng 4pm a 6pm. Os ydych chi eisiau cymryd rhan, e-bostiwch ni ar Theatrau@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch (01443) 425014.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Parc and Dare Theatre / Coliseum Theatre
Station Road / Mount Pleasant Street
Treorchy / Aberdare
CF42 6NL / CF44 8NG
19 Ebrill 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.