Gweld swydd wag -- YSTADEGYDD / DADANSODDWR
Consortiwm Canolbarth y De – Gwasanaeth Addysg ar Cyd
CYFLAWNI RHAGORIAETH GYDA’N GILYDD
Meithrin gallu trwy Her Canol De Cymru
YSTADEGYDD / DADANSODDWR
Mae Consortiwm Canolbarth y De, sy’n cynnwys pum ardal Awdurdod Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, a Bro Morgannwg, yn gweithio mewn partneriaeth i gyflenwi trefniadau uchelgeisiol ar gyfer gwella ysgolion trwy Her Canol De Cymru. Ar y cyd gyda’n hysgolion, rydym yn benderfynol y bydd pob plentyn a pherson ifanc, ym mhob ysgol, yn profi’r amodau gorau posib i’w galluogi i wireddu eu llawn botensial a chau’r bwlch rhwng y disgyblion mwyaf difreintiedig a’u cyfoedion.
Mae swydd wag ystadegwr/dadansoddwr wedi codi yn yr Uned Data, Ansawdd a Gwybodaeth am swyddog gwybodaeth reoli. Mae’r Uned yn gyfrifol am sicrhau bod dadansoddiad cywir ac amserol o ddata addysgol ar gael ar lefel disgyblion, ysgolion, awdurdodau lleol, y rhanbarth a Chymru gyfan. Mae’r data hwn yn galluogi’r Consortiwm i olrhain a monitro perfformiad disgyblion ac ysgolion er mwyn gosod targedau a mesur eu cyflawniad. Bydd yn darparu adnodd hanfodol i alluogi Ymgynghorwyr Her i herio a monitro ysgolion wrth wella safonau ar draws y rhanbarth.
Bydd y rôl hon yn gyfrifol am gasglu, dadansoddi a chyflwyno data addysgol. Bydd deiliad y swydd yn aelod o’r tîm datblygu ar gyfer gweithredu system newydd ar gyfer adrodd ar wybodaeth fusnes i’w defnyddio ym mhob rhan o’r sefydliad a bydd yn rhan ganolog o’r gwaith o gynhyrchu adroddiadau i’r rhanbarth.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael ei addysgu hyd at lefel gradd, a ddylai gynnwys ffocws ystadegol, ac yn ddelfrydol dylai fod â phrofiad blaenorol o drin data gwella ysgolion a defnyddio offer dadansoddi busnes e.e. SQL, SSRS, MS Power BI, Tableau. Dylai ymgeiswyr fod â phrofiad o waith partneriaeth, a defnyddio cronfeydd data, gan gynnwys mewnbynnu, adalw a chasglu data ystadegol a gwybodaeth reoli.
Mae hon yn swydd barhaol. Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â Margaret Parrish, Uwch Swyddog Gwybodaeth Reoli, neu Dr. Caryl Stokes, Rheolwr yr Uned Data, Ansawdd a Gwybodaeth am drafodaeth anffurfiol. Ffôn: 01443 827572.
y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, 20ain Ebrill 2018.
disgwylir y bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar 27ain ebrill 2018.
BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS YN DESTUN GWIRIAD DATGELU A RHWYSTRO MANYLACH.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.