Gweld swydd wag -- Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro - Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau
O ganlyniad i newidiadau diweddar yn y Gwasanaethau i Oedolion yn Rhondda Cynon Taf, dyma gyfle cyffrous i Reolwr Gwasanaeth dros dro yn y gwasanaethau gwaith cymdeithasol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu a Chamddefnyddio Sylweddau. Bydd y swydd yma am gyfnod penodol o flwyddyn i ddechrau.
Bydd swydd y Rheolwr Gwasanaeth yn cynnwys gwasanaethau gwaith cymdeithasol iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ac yn cynnwys gwaith amlasiantaeth gyda gwasanaethau iechyd a thrydydd sector i barhau i ddatblygu ein gwasanaethau.
Dyma gyfnod cyffrous i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion. Rydyn ni'n chwilio am unigolion egnïol sydd â brwdfrydedd, hanes da ac agwedd sy'n canolbwyntio ar atebion i ymuno â'n carfan. Mae'r swyddi yma'n amrywiol ac yn cynnig cyfle gwych i rywun sydd am wella'u sgiliau a'u profiad rheoli.
Bydd y rôl yma’n canolbwyntio'n bennaf ar reoli gweithredol 3 Carfan Iechyd Meddwl yn y Gymuned ac un gwasanaeth gwaith cymdeithasol Camddefnyddio Sylweddau. Bydd yn canolbwyntio ar ddau brif faes gwasanaeth. Bydd gweithio gyda meysydd gwasanaeth eraill a sefydliadau partner, ac yn enwedig iechyd mewn ffordd gydgynhyrchiol, yn allweddol i gyflawni deilliannau cadarnhaol.
Bydd y Rheolwr Gwasanaeth yn gyfrifol am arwain a sicrhau darpariaeth gwasanaeth effeithiol, gan dargedu adnoddau mor effeithlon â phosibl i gael yr effaith fwyaf.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth gadarn o ddeddfwriaeth ac arferion da, ac yn bwysicaf oll, sylfaen gwerthoedd sy'n dangos ymroddiad i ddarparu'r gwasanaethau gorau i unigolion a chynhalwyr (gofalwyr).
Cyfeiriwch at ddisgrifiad y swydd a’r fanyleb person am ragor o wybodaeth.
Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch â: Alexandra Beckham, Pennaeth y Gwasanaeth: alexandra.beckham@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 07384 537270.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.