Gweld swydd wag -- GWEITHWYR GOFAL YN Y CARTREF A GOFAL CANOLRADD AC ADSEFYDLU - Mae contractau parhaol 16 & 20 awr yr wythnos a chontractau achlysurol ar gael

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Ymyrraeth Tymor Byr i Oedolion
Gradd 5
£11.81 yr awr
Rhan-amser Parhaol

Rhannwch ein Gwerthoedd ... Rhannwch ein Gofal”

GWASANAETH CYMORTH YN Y CARTREF RHONDDA CYNON TAF

·       Mae contractau parhaol 16 & 20 awr yr wythnos a chontractau achlysurol ar gael.

·       Bydd opsiynnau contract eraill yn cael ei ystyried, cysylltwch a ni i trafod ymhellach

·       Mae gweithio achlysurol are benwythnosau yn unig hefyd are gael am bris uwch o £15.74 yr awr 

MAE GWAITH ACHLYSUROL AR GAEL HEFYD

Ydych chi wedi mwynhau cefnogi pobl sy'n agored i niwed yn eich cymuned yn ystod y cyfnod anodd yma neu a ydych chi wedi darganfod sgiliau wrth ofalu am eraill yn eu cartrefi eu hunain?

Os felly, ac rydych chi'n digwydd bod yn chwilio am swydd newydd mae modd i ni eich helpu chi!

Mae gyda ni gyfleoedd i bobl sy'n rhannu ein gwerthoedd ymuno â'n carfannau presennol o weithwyr gofal, sy'n bobl rydyn ni'n falch iawn ohonyn nhw.

Rydyn ni'n garfan fawr sy'n ehangu ond rydyn ni'n parhau i gynnal ethos cryf o undod ac mae modd i bob aelod o staff fanteisio ar gefnogaeth gan garfan brofiadol a sylweddol o reolwyr, aseswyr a therapyddion proffesiynol er mwyn dysgu am gyfrifoldebau'r rôl, magu hyder a mwynhau gyrfa werth chweil yn y maes gofal.

Byddwch chi'n cefnogi rhaglenni adsefydlu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn darparu gofal ymarferol, gan adlewyrchu'r dewisiadau maen nhw'n eu gwneud gan gynyddu annibyniaeth ac ansawdd bywyd yr unigolyn i'r eithaf. Rydyn ni'n cynnig hyn yng nghartref neu leoliad preswyl parhaol yr unigolion i wneud y pethau sy'n bwysig iddyn nhw ac sy'n hollbwysig i'w hiechyd a'u lles.

Mae'r gwasanaeth yn gweithredu 365 diwrnod y flwyddyn ac mae'r oriau gwaith yn amrywio rhwng 7.30am a 10.00pm. Mae ein staff gofal yn gweithio 5 diwrnod yr wythnos ac mae rota'n cael ei drefnu ymlaen llaw. Rydyn ni'n ymdrechu i gynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl i ddiwallu'ch anghenion.

Mae gyda ni ddiddordeb mewn clywed gan bobl a all fod yn ymroddedig, yn ddibynadwy ac yn barod i ddysgu sgiliau newydd, ac sydd â'r gallu i ddefnyddio mentergarwch. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cael eu cefnogi i gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae'r bartneriaeth gref sydd gyda ni gyda'r adran hyfforddiant fewnol ymroddedig yn sicrhau bod cefnogaeth ddysgu yn diwallu anghenion ein gweithwyr ar sail unigol. Byddwn ni hefyd yn ad-dalu ffioedd cofrestru yn brydlon.

Fel y byddech chi'n disgwyl mae gofal staff yn ganolog i'n gwasanaeth ac o'r herwydd rydyn ni'n darparu'r holl Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) angenrheidiol a bydd asesiadau risg trylwyr o'r amgylchedd gwaith yn cael eu cynnal yn unol â chanllawiau'r llywodraeth.

Mae Cyngor RhCT hefyd yn darparu Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol pwrpasol am ddim sy'n darparu gwasanaeth ffisiotherapi hunan-atgyfeirio yn ogystal â mynediad at gwnsela cyfrinachol pan fydd pethau'n mynd yn anodd ar unigolyn yn bersonol neu'n broffesiynol.

Rhaid bod gennych chi'r modd i deithio'n annibynnol ledled y Fwrdeistref Sirol.

Am sgwrs anffurfiol neu i ddysgu rhagor am y rôl cyn i chi wneud cais, ffoniwch Hayley Thorne neu Sue Lambert, a fydd yn falch o ateb unrhyw gwestiwn sy gyda chi, ar (01443) 425070.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Sylwer, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, hysbyseb barhaus yw hon a bydd ymgeiswyr addas yn cael eu gwahodd i gyfweliad yn rheolaidd.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. 

Er mwyn gwireddu addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

16 & 20 Awr yr wythnos
Rhondda
Cynon
Taff
CF40 1NY
14 Ebrill 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.