Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Gofal / Cynnal Cartref achlysurol

Gofal Cymdeithasol - Oedolion
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Llety
Gradd 4
£11.18 - £11.81 yr awr gan ddibynnu ar ddyletswyddau
Gweithwyr Dros Dro

CYNORTHWYWYR GOFAL/CYNNAL CARTREF ACHLYSUROL               

CANOLFAN ADNODDAU CAEGLAS, PARC NEWYDD, TŶ PENTRE, CARTREF GOFAL TROED-Y-RHIW, CANOLFAN ADNODDAU TEGFAN, TŶ GLYNRHEDYN (FERNDALE HOUSE), CWRT CLYDACH

Rydyn ni am benodi staff i gyflenwi ar ran staff parhaol. O'ch penodi i'r swydd, bydd gofyn eich bod chi ar gael ar fyr rybudd i weithio yn ystod yr wythnos, dros y penwythnos a gyda'r nos. Rydyn ni'n darparu gofal o safon uchel ac ansawdd arbennig ar gyfer ein henoed eiddil a'r rhai sydd â dementia ac rydyn ni'n chwilio am unigolion addas i weithio yn ein gweithlu Gofal Cymdeithasol.

Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys tasgau cyffredinol yn ymwneud â chynnal cartref, gwaith cegin a gofal personol y preswylwyr a defnyddwyr y gwasanaeth.

Bydd angen i chi feddu ar agwedd aeddfed a deall anghenion pobl hŷn. Byddai profiad o weithio gyda phobl hŷn neu o dreulio amser yn eu cwmni o fantais.

Byddwch chi'n derbyn cymorth trwy fframwaith sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) – rhaglen yw hon gyda’r nod o’ch paratoi chi ar gyfer eich swydd newydd.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Cartrefi a'r carfannau rheoli canlynol:

Canolfan Adnoddau Caeglas – Mr Peter Pegley - (01443) 841234

Tŷ Pentre – Mrs Vicky Taylor – (01443) 441929

Troed-y-rhiw – Mrs Elaine Cable - (01443) 473520

Parc Newydd – Mrs Ruth Picton – (01443) 237848

Canolfan Adnoddau Tegfan – Mrs Pat Summers – (01685) 878485

Tŷ Glynrhedyn - Miss Laura Andrei (01443) 730614

Cwrt Clydach - Mrs Dawn Williams (01443) 827388

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Sylwch, er bod dyddiad cau wedi'i nodi, mae hon yn hysbyseb barhaus a gwahoddir ymgeiswyr addas i gyfweld yn rheolaidd.

Pan fo angen
Caeglas Resource Centre
Cardiff Road
Hawthorn
CF37 5AH
14 Ebrill 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.