Gweld swydd wag -- Swyddog Rheoli Perygl Llifogydd – Cyllid Allanol

Penseiri, Peirianwyr a Thirfesurwyr
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd 10
£32,798
Amser llawn dros dro

Mae’r Garfan Rheoli Perygl Llifogydd yn gyfrifol am ystod ehangach o swyddogaethau rheoleiddio sydd wedi'u nodi yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a Deddf Draenio Tir 1991:

  • Swyddogaethau rheoleiddio (Cydsynio a Gorfodi),
  • Datblygu a Chynnal Strategaeth Leol
  • Ymchwilio i Lifogydd.
  • Rheoli Asedau,
  • Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy,
  • Ymwybyddiaeth o Lifogydd a Chyfathrebu.

Mae’r garfan hefyd yn cyflawni ystod eang o gynlluniau Lliniaru Llifogydd, gan gynnwys Rheoli Perygl Llifogydd Naturiol, Draenio Cynaliadwy, Mesurau Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo,  ynghyd ag ymyriadau mwy traddodiadol i liniaru llifogydd o ‘ffynonellau lleol’ (Dŵr Wyneb, Dŵr Daear a Chyrsiau Dŵr Cyffredin ).

Rydyn ni am benodi person addas i gynorthwyo gyda'r 'swyddogaethau Rheoli Perygl Llifogydd Strategol' sy'n gysylltiedig â'r Awdurdod Draenio Tir (LDA), yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) a'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB). Bydd y swydd yn cynorthwyo'r gwaith o roi'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd ar gyfer RhCT ar waith, yn prydlesu ac yn gweithio gyda sefydliadau partner, ac yn gwerthuso ac asesu effeithiau'r prosiect, gan gynnal mecanweithiau gwerthuso effeithiol a chronfeydd data cyfoes.

Bydd y swydd hefyd yn cefnogi cyfrifoldebau ehangach yr Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol, y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy a chyrff rheoleiddio'r Awdurdod Draenio Tir, ac mae'n bosibl y bydd yn cynorthwyo'r gwaith o reoli adnoddau o fewn y garfan Rheoli Perygl Llifogydd. Bydd hefyd yn ymateb i gwynion, ymholiadau a cheisiadau am wybodaeth ynghyd ag ystyried ceisiadau cynllunio amlinellol a chynlluniau manwl o ran eu heffeithiau posibl ar berygl llifogydd dŵr wyneb.  

Mae'n hanfodol bod ymgeiswyr yn meddu ar gymhwyster lefel Tystygrif Genedlaethol Uwch ym maes 'Gwyddor yr Amgylchedd' neu 'Beirianneg Sifil', neu bwnc tebyg. Rhaid fod gan ymgeiswyr brofiad o Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), Ymchwiliadau Llifogydd a phrofiad o weithio'n effeithiol gyda phartneriaid.

Dyma swydd Llawn Amser, Dros Dro sydd ar gael tan 31/03/2025.

I gael sgwrs anffurfiol neu ragor o wybodaeth am y swydd, anfonwch neges e-bost at Mr Owen Griffiths, Rheolwr Perygl Dŵr, Llifogydd a Thomenni: owen.griffiths@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
24 Awst 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.