Gweld swydd wag -- Arolygydd Priffyrdd Gofal y Strydoedd
Rydyn ni'n chwilio am Arolygydd Priffyrdd i reoli'r modd y darperir gwasanaethau cynnal a chadw ac adeiladu priffyrdd rheng flaen yn ddiogel ac yn effeithlon.
Bydd angen gwybodaeth dda o weithgareddau cynnal a chadw priffyrdd ac adeiladu a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch ar ymgeiswyr.
Prif ganolbwynt y swydd fydd cynorthwyo'r Peirianwyr Priffyrdd, gan gynnal archwiliadau arferol y priffyrdd gan gynnwys darparu archebion gwaith ar gyfer staff gweithredol yr Adran Briffyrdd.
Bydd angen i'r ymgeisydd ddarparu a hyrwyddo gofal i gwsmeriaid o safon uchel a bod â gwybodaeth ac ymwybyddiaeth leol dda o faterion yn y gymuned.
Y lle gwaith yw Depo Dinas, Porth. Dyma swydd 37 awr yr wythnos o dan y cynllun oriau gwaith hyblyg, gyda 26 diwrnod o wyliau blynyddol (yn codi i 31 diwrnod ar ôl 5 mlynedd), a'r cyfle i ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynllun buddion i staff.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar drwydded yrru ddilys lawn a bydd disgwyl iddo deithio rhwng safleoedd amrywiol ledled Rhondda Cynon Taf. Bydd modd iddo ddefnyddio cerbyd y Cyngor.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn ac sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.