Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymdeithasol / Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Carfan Iechyd Meddwl Taf

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
Gradd 11
£38,296 / £41,496 (Gradd 12) ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Profiadol
Amser Llawn Parhaol

Gweithiwr Cymdeithasol                                                          

Gradd 11 – Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a Chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru

Gradd 12 – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig swyddi Gwaith Cymdeithasol yn rhan o'u Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddyn nhw ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.

Rydyn ni'n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Rydyn ni'n croesawu ceisiadau ar gyfer swydd Gwaith Cymdeithasol yn rhan o Garfan Iechyd y Meddwl Cymuned Taf-Elái ym Mharc Iechyd Dewi Sant ym Mhontypridd. Bydd y swydd yn canolbwyntio ar weithio ag unigolion sydd ag anghenion iechyd meddwl  Mae'r garfan yn cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Seiciatrig, Seicolegwyr a Therapydd Galwedigaethol.

O'ch penodi i'r swydd, bydd gofyn i chi weithio'n rhan o garfan a deall cryfderau a heriau gwaith aml-ddisgyblaethol. Rhaid bod gyda chi'r gallu i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i'r cyhoedd. Bydd angen ymgymryd ag asesiadau o anghenion unigolion a'u cynhalwyr, cyd-baratoi a gweithredu Cynlluniau Gofal a Thriniaeth lle bo angen a bod yn Gydlynydd Gofal. Bydd angen gweithio yn unol â gofynion deddfwriaethol allweddol, fel Mesurau Iechyd Meddwl Cymru (2010), Deddf Iechyd Meddwl (1983) a'r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005). Yn ogystal â hynny, bydd angen meddu ar ddealltwriaeth o egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014).

Mae'r rôl yn heriol a bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos dealltwriaeth ac ymrwymiad i ddull gweithredu sy'n seiliedig ar wella mewn perthynas â darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol.

I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n derbyn cymorth i ddilyn ein rhaglen gymorth i gyfoedion yn eich blwyddyn gyntaf yn ymarferydd. Nod y rhaglen yma yw cau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.

Caiff goruchwyliaeth a chymorth proffesiynol eu rhoi'n rheolaidd.  Bydd cyfle eang am ddatblygiad proffesiynol parhaus, e.e. dilyn cymwysterau/hyfforddiant CPEL ôl-raddedig i ddod yn Aseswr Lles Gorau ynghylch Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid (2007) ac o bosibl yn ennill cymhwyster Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy. Caiff cyflog ehangach ei gynnig i ymgeiswyr sydd â'r cymhwyster Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy ac sy'n cyflawni'r rôl honno yn rhan o'r swydd.

Mae'n hanfodol eich bod chi'n meddu ar gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig e.e. gradd mewn gwaith cymdeithasol, diploma mewn gwaith cymdeithasol neu CQSW. Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru â Chyngor Gofal Cymru.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.  Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad.  Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso yn eu cyfweliad.


Am sgwrs anffurfiol am y swydd, ffoniwch Kate Riley (Rheolwr y Garfan) ar (01443) 443844.

37
Taff Ely Community Mental Health Team
2nd Floor, Dewi Sant Health Park
Albert Road
CF37 1LB
14 Ebrill 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.