Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymorth Byw Bywyd yn Annibynnol
Rydyn ni'n awyddus i benodi pedwar person medrus, brwdfrydig ac arloesol i ymuno â Gwasanaeth Byw Bywyd yn Annibynnol Rhondda Cynon Taf.
Mae un o'r swyddi wedi'i lleoli ym Mhrif Swyddfa Cwm Cynon, Aberdâr gyda'r tair arall wedi'u lleoli yn y Pentre, Rhondda.
Bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu cefnogaeth un i un i unigolion ag ystod o gyflyrau iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Bydd y gefnogaeth yn canolbwyntio ar ddeilliannau er mwyn cynorthwyo'r unigolyn i weithio tuag at gyflawni ei ganlyniadau personol. Bydd y gefnogaeth hefyd yn cael ei rhoi yn unol â'r Cod Ymarfer a ddyfeisiwyd o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Byddwch chi'n weithiwr allweddol i nifer dynodedig o unigolion, ac yn gyfrifol am ddyfeisio Cynlluniau Unigol i ddiwallu'r anghenion / deilliannau personol sydd wedi'u nodi gan y Carfanau Asesu. Mae'r gwasanaeth yma'n canolbwyntio ar gymell a helpu unigolion i ddatblygu a chynnal y sgiliau anghenrheidiol i allu byw yn annibynnol, hyrwyddo lles meddyliol a chorfforol a galluogi unigolion i fyw bywydau mwy cynhwysol yn eu cymunedau.
Bydd gofyn i chi weithio o'ch pen a'ch pastwn yn ogystal â gweithio yn rhan o garfan a chydag asiantaethau/partneriaid eraill.
Bydd cymorth yn cael ei ddarparu yng nghartref yr unigolyn a / neu mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol.
Bydd gofyn i chi weithio mewn modd hyblyg hefyd er mwyn diwallu anghenion unigolion, a all gynnwys gweithio gyda'r hwyr ac ar benwythnosau.
Yn ogystal â gweithio ar sail un i un gydag unigolion, efallai y bydd gofyn i chi hwyluso gweithgareddau grŵp lle bo hynny'n berthnasol.
Mae sgiliau cyfathrebu cadarn yn hanfodol i'r swydd ac mae disgwyl i chi weithio tuag at gyrraedd Lefel 3 FfCCh mewn cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol perthnasol.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Claire Hughes ar (01443) 424350.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n drylwyr i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.