Gweld swydd wag -- Swyddog Graddedig Dros Dro – Digidol

Cyfleoedd i Raddedigion
Prif Weithredwr
Gwasanaethau Cyllid a Digidol
Gradd 8
£26,317
Cyfnod Penodol

Tymor Penodol – 2 flynedd

Rhaglen i Raddedigion Cyngor RhCT 2020

Mae swydd i raddedigion gyda Chyngor RhCT yn agor drysau i swyddi a chyfleoedd gyrfa rhagorol eraill.

Dyma gyfnod cyffrous a llawn her ym myd Llywodraeth Leol, wrth iddo barhau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel ochr yn ochr â gwerth am arian. Fe fydd swyddogaeth Llywodraeth Leol o ran llywio dyfodol ein cymunedau lleol yn bwysicach nag erioed.

Mae gweithio ym myd Llywodraeth Leol yn un o'r heriau caletaf ac ysgogol i'r ymennydd wrth inni gynnal gwasanaethau sy'n mennu ar filoedd o fywydau mewn amryw ffyrdd.

Mae'r Cyngor unwaith eto yn chwilio am weithwyr yn rhan o'i Raglen i Raddedigion sy'n cynnig amgylchfyd bywiog ar gyfer meithrin medrau newydd, trosglwyddadwy, yn ogystal â chyfleoedd i gwrdd â phobl o amryfal gefndiroedd ac i feithrin gyrfa yn Rhondda Cynon Taf.

O gymryd rhan y rhaglen yma, byddwch chi'n cael hyfforddiant wrth i chi weithio, cyflog cystadleuol, yr opsiwn i ymuno â Chynllun Pensiwn y Cyngor, 25 diwrnod o wyliau blynyddol (mewn blwyddyn lawn) a manteision megis ffioedd gostyngol ar gyfer aelodaeth â Chanolfannau Hamdden yn Rhondda Cynon Taf sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor a Chynllun Buddion i Staff.

Rydyn ni am benodi unigolyn graddedig i weithio yn y Swyddfa Gwelliannau Digidol ac rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan raddedigion sydd â chymhwyster gradd 2.2 mewn cymhwyster TG priodol. Er enghraifft:

BSc (Anrh) Cyfrifiadureg/Cyfrifiadura, BSc (Anrh) Datblygu Rhaglenni Cyfrifiaduron, BSc (Anrh) Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi a chyflawni Strategaeth Trawsnewid Digidol y Cyngor gan ymchwilio i arferion gorau ym maes TGCh. Bydd hefyd yn cefnogi a gweithredu ffyrdd newydd ac arloesol o weithio ar draws y sefydliad, sy'n sicrhau gwelliannau busnes go iawn ar gyfer y sefydliad, lle mai technoleg yw'r ffactor galluogi allweddol.

Ar ôl llunio rhestr fer gychwynnol, bydd asesiadau'n cael eu cynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Mehefin. I'r rhai sy'n cael eu gwahodd i'r cam nesaf, bydd cyfweliadau unigol yn cael eu cynnal ar unai 29 neu 30 Mehefin 2020. Oherwydd nifer fawr y ffurflenni cais, dydy'r dyddiadau yma ddim yn rhai hyblyg ond efallai y byddan nhw'n newid.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, e-bostiwch: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad ydy unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddynt hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau o bob rhan o'r gymdeithas.

37
Rhondda Fach Leisure Centre
East Street
Tylorstown
CF43 3HR
1 Medi 2020
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.