Gweld swydd wag -- Uwch Gyfieithydd (x2)

Arall
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 10
£30,756
Amser Llawn Parhaol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dymuno penodi dau Uwch Gyfieithydd i weithio yn rhan o'i garfan gyfieithu brysur sy wedi'i hen sefydlu. O'ch penodi, eich prif ddyletswyddau fydd paratoi cyfieithiadau Saesneg > Cymraeg a Chymraeg > Saesneg, gan gynnwys gan roi cymorth penodol i Wasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethol y Cyngor. Bydd hefyd angen ichi brawfddarllen dogfennau, rheoli darpariaeth cyfieithu ar y pryd, ac ymgymryd ag ef, a chyflawni dyletswyddau rheolwr llinell.

Mae'r swyddi yma'n rhan o nod y Cyngor i fodloni gofynion Safonau'r Gymraeg statudol newydd. Yn hyn o beth, bydd gofyn ichi chwarae rôl annatod ar hyd holl wasanaethau'r Cyngor er mwyn hwyluso mentrau Cymraeg.

Bydd gennych chi radd yn y Gymraeg neu gyfwerth a bydd profiad blaenorol o weithio fel cyfieithydd ac ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol yn hanfodol.

Pe hoffech chi drafod manylion y swydd yn anffurfiol gyda Phennaeth Gwasanaethau Cymraeg y Cyngor, Steffan Gealy, croeso i chi'i ffonio ar (01443) 570002.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37 awr
The Pavillions
Cambrian Park
Clydach Vale
CF40 2XX
17 Hydref 2018
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.