Gweld swydd wag -- Cyfieithydd (3 swydd)
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn awyddus i benodi tri chyfieithydd i weithio'n rhan o'i garfan gyfieithu brysur wedi'i hen sefydlu. Prif ddyletswydd deiliaid y swydd fydd cyfieithu dogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg. Mae hyn yn rhan o amcan y Cyngor i gydymffurfio â safonau statudol newydd Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal â hyn, bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus chwarae rhan annatod ar draws yr holl ystod o wasanaethau'r Cyngor er mwyn hwyluso mentrau corfforaethol cyfrwng Cymraeg. Bydd gofyn i chi ymgymryd â chyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd ac achlysuron y mae'r Cyngor yn eu trefnu.
Bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus radd yn y Gymraeg neu gyfwerth a bydd profiad blaenorol o weithio fel cyfieithydd o fantais.
Pe hoffech chi drafod manylion y swydd yn anffurfiol gyda Phennaeth Uned Gwasanaethau Cymraeg y Cyngor, Steffan Gealy, croeso i chi'i ffonio ar (01443) 570002.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.