Sut i alluogi cwcis yn Internet Explorer
Internet Explorer 6.0
Pan fydd Internet Explorer ar agor:
- Ewch i ‘Tools’.
- Yna, cliciwch ar ‘Internet options’.
- Bydd ffenestr newydd yn ymddangos
- Cliciwch ar y tab ‘Privacy’.
- Cliciwch ar y botwm ‘Advanced’.
- Ticiwch ‘Override automatic cookie handling’.
- Dewiswch ‘Accept’ dan ‘First party Cookies’ a ‘Third party Cookies’.
- Hefyd, ticiwch ‘Always allow session cookies’.
- Cliciwch ar ‘OK’ er mwyn gadael ‘Internet Options’ – caewch bob ffenestr IE6 sydd ar agor, ac ailagor Internet Explorer.
Fersiynau hŷn o Internet Explorer
Cliciwch ar ‘Tools’ yn y bar offer ar frig y porwr.
Yn y gwymplen, cliciwch ar ‘Internet options’.
Cliciwch ar y tab ‘Security’.
Cliciwch ar y botwm ‘Custom Level’.
Sgroliwch i lawr i'r adran ‘Cookies’.
Gwnewch yn siŵr bod ‘enable’ wedi'i ddewis dan y ddau.
Mae eisiau i chi alluogi cwcis sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur a galluogi cwcis sesiynau (sydd ddim yn cael eu storio).