Gweld swydd wag -- Arweinydd Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol yn y Gymuned – Wedi'i ariannu'n allanol

Hamdden
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned
Gradd 6
£21,748
Amser llawn dros dro

Mae Carfan Chwaraeon Rhondda Cynon Taf am benodi gweithwyr proffesiynol i ddatblygu Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol.  Bydd y swydd yn cynnwys gweithio'n agos gydag ystod o bartneriaid i ddarparu a hwyluso cyfleoedd chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned. Mae'r garfan yn gweithredu'n rhan o garfan datblygu chwaraeon yr awdurdod lleol (Chwaraeon RhCT) sy'n gweithio'n agos ag ysgolion, sefydliadau yn y gymuned, ac ystod eang o weithluoedd proffesiynol a gwirfoddol er mwyn gwireddu delfryd Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru o genedl iachach.

Bydd dyletswyddau eraill yn cynnwys gweithredu dulliau casglu a rheoli data, mesur effaith a darparu a chyflwyno prosiectau a rhaglenni ar lefel lleol ac awdurdod cyfan sy'n unol â chynllun darparu gwasanaeth. Bydd angen rhywfaint o weithio gyda'r nos a/neu ar benwythnosau. 

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar Gymhwyster Lefel 3 mewn datblygu chwaraeon, datblygu'r gymuned neu bwnc perthnasol arall.

Mae dwy swydd ar gael (un contract tymor penodol ac un secondiad, y ddwy tan 31 Mawrth 2022).

Am ragor o fanylion am y swydd yma, e-bostiwch Gavin Bennett (Rheolwr Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol): gavin.r.bennett@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

37
Abercynon Sports Centre
Parc Abercynon
Abercynon
CF45 4UY
25 Mehefin 2021
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.