Gweld swydd wag -- Gweithiwr Cymdeithasol / Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol 16+

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 11
£38,296 / £41,946 pro rata (Gradd 12) ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Profiadol
Rhan-amser Parhaol

Gweithiwr Cymdeithasol                                                                                            

Gradd 11 – Gradd Gychwynnol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a Chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru

Gradd 12 – Gradd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol ~ o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwysol a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae'n dda gan Gyngor Rhondda Cynon Taf gynnig y swydd Gwaith Cymdeithasol yma'n rhan o'i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol.

Rydyn ni'n chwilio am Weithiwr Cymdeithasol brwd sy'n llawn cymhelliant i ymuno â'n Gwasanaeth 16+. Swydd ran amser barhaol yw hon, 33 awr yr wythnos.

Mae gyda phob un o'n hymarferwyr gyfle i ddylanwadu ar ein gwaith wrth iddyn nhw ddatblygu. Maen nhw'n cael cymorth gan garfan reoli gadarn a phrofiadol ar lefelau strategol a gweithredol.

Rydyn ni'n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol, yn broffesiynol ac yn bersonol, a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Ar hyd y blynyddoedd diwethaf, mae ein Hadrannau Gofal Cymdeithasol wedi elwa yn sgil buddsoddiad cynhwysfawr a sylweddol. Yn sgil hyn, rydyn ni wedi cryfhau'n gwasanaethau ataliol gan anelu at leihau'r pwysau ar y rheng flaen.  

O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion, sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.

I'r sawl sy'n dechrau eu gyrfa ym maes Gwaith Cymdeithasol, byddwch chi'n cael cefnogaeth i ddilyn ein rhaglen gymorth i gyfoedion yn eich blwyddyn gyntaf fel ymarferydd. Nod y rhaglen yma yw lleihau'r bwlch rhwng ennill cymhwyster a rhoi hynny ar waith yn ymarferol.

Rydyn ni'n disgwyl i'n swyddogion feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a deddfwriaeth berthnasol arall. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio ym maes gofal plant, neu feddu ar ddiddordeb mewn gwneud hynny. Byddwch chi wedi'ch ymroi i ymarfer nad yw'n ormesol, a bydd gyda chi sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.

Mae'r garfan 16+ yn darparu gwasanaethau i bobl ifainc rhwng 15 oed a 9 mis i 25 oed. Byddwch chi'n gweithio gyda phobl ifainc sy’n ddigartref, sydd angen gofal a chymorth a’r rhai sy’n pontio o’r system ofal.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ar y cyd â phobl ifainc yn y system ofal. Bydd y gwaith yn mynd i'r afael ag ystod o faterion y mae pobl ifainc yn eu hwynebu yn ystod eu cyfnod mewn gofal; wrth adael gofal; symud i annibyniaeth; rheoli tenantiaeth; mynd i'r Brifysgol ac ati. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwaith uniongyrchol a gwaith grŵp gyda phobl ifainc yn ein canolfan yn Stryd Morgan, Pontypridd yn ogystal â gweithio hybrid/gweithio gartref. Fodd bynnag, prif ganolfan y swydd hon yw Tŷ Trevithick.

O'ch penodi i'r swydd, byddwn ni'n disgwyl i chi reoli llwyth achosion penodol wrth feithrin a chynnal cysylltiadau ag asiantaethau partner. Mae rhaid i chi feddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol proffesiynol cydnabyddedig. O'ch penodi i'r swydd, bydd disgwyl i chi gofrestru'n Weithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Os byddwch chi'n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, bydd raid ichi gadarnhau a ydych chi'n gwneud cais am swydd Gweithiwr Cymdeithasol (GR11) neu Weithiwr Cymdeithasol Profiadol (GR12) cyn y cyfweliad.  Bydd disgwyl i'r rheiny sy'n ymgeisio am swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol fod yn barod i ddarparu tystiolaeth o'u cofrestriad â Gofal Cymdeithasol Cymru a 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso yn eu cyfweliad.

Am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Kathryn Morgan, Rheolwr y Garfan, Gwasanaeth 16+ y Gorllewin  ar 07786523633.

Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:

  • Trefniadau Gweithio Hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
  • Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
  • Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
  • Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
  • Cynllun buddion i staff
  • Cerdyn gostyngiadau 'Vectis'

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

33
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain Ash
CF45 4UQ
7 Ebrill 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.