Gweld swydd wag -- Swyddog y Dderbynfa

Gofal i Gwsmeriaid
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 3
£18,887
Amser llawn dros dro

Mae cyfle cyffrous wedi codi'n rhan o Wasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant y Cyngor ar gyfer Swyddog y Dderbynfa yn ein tri Chanolfan Plant a Theuluoedd.  Bydd gofyn i ddeiliaid y swydd deithio yn annibynnol ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol i ddarparu cymorth i Reolwr Safleoedd Gofal Plant.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu gwasanaeth cyfeillgar ac effeithlon i gwsmeriaid a chreu awyrgylch cynnes a chroesawgar i bob ymwelydd, gyda'r bwriad o gadw a denu cwsmeriaid newydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r Rheolwr Safleoedd Gofal Plant a Chanolfannau gyda gweithrediad esmwyth pob Canolfan.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Simon Bowen, Rheolwr Safleoedd Gofal Plant a Chanolfannau: Simon.Bowen@rctcbc.gov.uk.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn adnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Aman Children and Family Centre
Godreaman Street
Aberdare
CF44 6DF
29 Awst 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.