Gweld swydd wag -- Cynorthwy-ydd Gweinyddol dan Brentisiaeth Dros Dro (2 swydd)

Prentisiaethau
Prif Weithredwr
Prif Weithredwyr
Isafswm Cyflog
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Amser llawn dros dro

Cynllun Prentisiaeth Cyngor RhCT 2022

Mae prentisiaeth gyda Chyngor RhCT yn gam cyntaf o'ch taith tuag at gyfleoedd gyrfa ardderchog.

 

Mae Cynllun Prentisiaeth y Cyngor 2022 yn cynnig cyfleoedd gwaith cyffrous mewn nifer o feysydd gwasanaeth gwahanol.  

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf am benodi dau Gynorthwy-ydd Gweinyddol dan Brentisiaeth Dros Dro. Bydd un yn gweithio yn ein Huned Cymorth Materion Busnes yn Nhŷ Elái, Trewiliam. Bydd y llall yn gweithio yn Nhŷ Trevithick, Abercynon yn rhan o garfan Eiddo'r Cyngor.

 

Bydd y rôl yma'n gyfle i'r prentis ddatblygu'r sgiliau a'r doniau hanfodol ar gyfer rôl mewn amgylchedd gweinyddol. Rydyn ni'n dymuno penodi unigolyn brwdfrydig a threfnus iawn sy'n meddu ar sgiliau cyfathrebu da ac sy'n fanwl, sy'n gweithio'n dda mewn tîm. (Gweler y disgrifiadau swydd isod):

 

Byddwch chi'n gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'r cynllun yn rhoi'r cyfle i chi ennill cyflog yr un pryd â dysgu a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn eich maes gyrfa. 

 

Buddion:

 

  • Hyfforddiant mewnol, rhaglen ymsefydlu wedi'i theilwra, gofal a chymorth bugeiliol
  • Cewch eich talu wrth i chi ddysgu
  • Mae'r pecyn buddion yn cynnwys pensiwn, 25 diwrnod o wyliau blynyddol, ffioedd aelodaeth rhatach i ganolfannau hamdden yn RhCT, a chynllun buddion staff.

 

Dyma swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd gan ddechrau ym mis Medi

  1. Byddwch chi'n cael Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar sail eich oedran:

 

  • 23 oed neu'n hŷn £9.50
  • 21-22 oed £9.18
  • 18-20 oed £6.83 
  • Dan 18 oed £4.81

 

 

O ganlyniad i feini prawf prentisiaethau, does dim modd i ni dderbyn ceisiadau gan bobl sydd eisoes wedi ennill cymhwyster tebyg ar Lefel 3 neu uwch. Er enghraifft, os oes gennych radd mewn Peirianneg Sifil, nid ydych chi'n gymwys i wneud cais ar gyfer swydd brentisiaeth Peirianneg Sifil. Serch hynny, mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd dan brentisiaeth arall. Fyddwn ni ddim yn ystyried unrhyw gais o'r fath. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned.

 

Am ragor o wybodaeth am y swydd yma, e-bostiwch y Garfan Materion Addysg, Cyflogaeth, a Hyfforddiant CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Ty Elai / Ty Trevithick
Williamstown / Abercynon
Tonypandy / Mountain Ash
CF40 1NY / CF45 4UQ
19 Awst 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.