Gweld swydd wag -- Swyddog Cymorth ac Ymwybyddiaeth o ran Llifogydd
Mae’r Garfan Rheoli Perygl Llifogydd yn gyfrifol am ystod ehangach o swyddogaethau rheoleiddio sydd wedi'u nodi yn Neddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a Deddf Draenio Tir 1991:
- Swyddogaethau rheoleiddio (Cydsynio a Gorfodi),
- Datblygu a Chynnal Strategaeth Leol
- Ymchwilio i Lifogydd,
- Rheoli Asedau,
- Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy,
- Ymwybyddiaeth o Lifogydd a Chyfathrebu.
Mae’r garfan hefyd yn cyflawni ystod eang o gynlluniau Lliniaru Llifogydd, gan gynnwys Rheoli Perygl Llifogydd Naturiol, Draenio Cynaliadwy, Mesurau Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo, ynghyd ag ymyriadau mwy traddodiadol i liniaru llifogydd o ‘ffynonellau lleol’ (Dŵr Wyneb, Dŵr Daear a Chyrsiau Dŵr Cyffredin ).
Rydyn ni am benodi person addas i gynorthwyo gyda'r 'swyddogaethau Rheoli Perygl Llifogydd Strategol' sy'n gysylltiedig â'r Awdurdod Draenio Tir (LDA), yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA) a'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB). Bydd y swydd yn cynorthwyo'r gwaith o roi'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd ar gyfer RhCT ar waith, ac yn cynorthwyo gyda datblygu strategaeth gyfathrebu gan gynnwys gwella a chynnal gwefan RhCT ar bob mater yn ymwneud â rheoli perygl llifogydd.
Bydd y swydd hefyd yn cefnogi cyfrifoldebau ehangach yr Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol, y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy a chyrff rheoleiddio'r Awdurdod Draenio Tir, ac mae'n bosibl y bydd yn cynorthwyo'r gwaith o reoli adnoddau o fewn y garfan Rheoli Perygl Llifogydd. Bydd hefyd yn helpu i ddatblygu cynlluniau llifogydd cymunedol a/neu gynlluniau unigol, cefnogi ymgynghoriadau cyhoeddus a chydlynu gydag adrannau mewnol i roi cymorth i gymunedau ac i ymateb i gwynion, ymholiadau a cheisiadau am wybodaeth.
Mae'n hanfodol bod gan ymgeiswyr wybodaeth am dechnegau ymgysylltu â'r gymuned a Rheoli Gwybodaeth a rhaid bod modd iddyn nhw weithio'n effeithiol gyda phartneriaid proffesiynol a chyda'r gymuned.
I gael sgwrs anffurfiol neu ragor o wybodaeth am y swydd, anfonwch neges e-bost at Mr Owen Griffiths, Rheolwr Perygl Dŵr, Llifogydd a Thomenni: owen.griffiths@rctcbc.gov.uk.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.