Gweld swydd wag -- PARTNERIAID GWELLA
Consortiwm Canolbarth y De – Gwasanaeth Addysg ar y Cyd
Grymuso Ysgolion i Wella Deilliannau ar gyfer Pob Dysgwr
Angen cyn gynted â phosib
PARTNERiaid GWELLA
(Canolfan Menter y Cymoedd, Abercynon)
Soulbury Graddfa 18 – 21 + 3 pwynt SPA, Neu secondiad hyd at uchafswm o £66,093 Pro rata
Rydym yn awyddus i benodi Partneriaid Gwella sydd yn medru cefnogi Ysgolion Cynradd neu Uwchradd.
Croesewir ceisiadau secondiad, parhaol, amser llawn a rhan amser.
Rydym yn awyddus i benodi arweinwyr ysgol talentog a gweithwyr proffesiynol gwella ysgolion i ymuno â’n tîm brwdfrydig ac ymroddedig o Bartneriaid Gwella. Gwahoddir ceisiadau gan y rheiny sy’n medru gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.
Credwn bod hwn yn gyfle datblygu gwych, fel Partner Gwella byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gyfrannu ar gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol a rhanbarthol ym myd addysg.
Byddwch yn cael eich cefnogi yn eich datblygiad personol a bydd gennych fynediad i gyfleoedd o fewn a thu hwnt i'r rhanbarth i wella eich arfer proffesiynol.
Croeso i ddarpar ymgeiswyr gysylltu ag Andrew Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, am drafodaeth anffurfiol. Ffôn: (01443) 281400.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION SY’N AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I GONSORTIWM CANOLBARTH Y DE A’R CYNGOR
YN YCHWANEGOL AT Y CYFRIFOLDEB DIOGELU HWN, BYDD YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD YN DESTUN GWIRIAD DATGELU A RHWYSTRO MANYLACH
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.