Gweld swydd wag -- Gosodwr Cyfleusterau Chwarae
Dyma gyfle i ymuno â charfan Meysydd Chwarae Rhondda Cynon Taf fel Gosodwr Cyfleusterau Chwarae.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am osod, cynnal a chadw, ac atgyweirio cyfleusterau chwarae a hamdden y Cyngor. Yn ogystal â hyn, bydd yr unigolyn yn sicrhau diogelwch, gwaith cynnal a chadw, a glendid holl gyfleusterau chwarae'r gwasanaeth.
Bydd yr unigolyn yn aelod annatod o'r garfan gan ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer a chyflwyno delwedd gadarnhaol o'r Cyngor.
Am sgwrs anffurfiol neu ragor o wybodaeth, ffoniwch Adam Kettley, Rheolwr Cyfleusterau Meysydd Chwarae, ar (01443) 562296 neu e-bostiwch Adam.kettley2@rctcbc.gov.uk
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.