Gweld swydd wag -- Rheolwr Arweiniol ar gyfer Ymarfer

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 14
£45,648
Amser Llawn Parhaol

Rheolwr Arweiniol ar gyfer Ymarfer

Ai chi fydd yn ein helpu i lunio ac arwain ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol? Rydyn ni eisiau penodi unigolyn llawn angerdd a fydd yn mwynhau'r her o ddarparu arweinyddiaeth wrth i ni gychwyn ar waith sylweddol i gyflwyno model RhCT o ymarfer gwaith cymdeithasol wedi’i lywio gan gronfa dystiolaeth o ‘beth sy’n gweithio’ mewn ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau.

Mae'r swydd newydd, sef Rheolwr Arweiniol ar gyfer Ymarfer, yn gyfle cyffrous i arwain ar y gwaith o gydgynhyrchu, gweithredu a gwerthuso model ymarfer gwaith cymdeithasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant RhCT yn barhaus.

Byddwch chi'n meddu ar gymhwyster gwaith cymdeithasol proffesiynol, h.y. gradd israddedig/gradd meistr mewn gwaith cymdeithasol neu gymhwyster blaenorol cydnabyddedig, e.e. CQSW, DipSW, CSS a phedair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso ym maes gwasanaethau i oedolion/i blant

Ein cynnig

Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu. Rydyn ni hefyd eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ein bod ni'n amddiffyn eich lles, a bod gyda chi gydbwysedd gwaith/bywyd da.

Mae buddion eraill i staff yn cynnwys:

  • Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg ac mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn ffordd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa.
  • Mynediad i'n Huned Iechyd Galwedigaethol a CARI, ein hofferyn lles cyfrinachol digidol newydd.
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) hael.
  • Defnydd o'n Canolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
  • Rydyn ni hefyd yn datblygu rhaglen i gefnogi lles ymarferwyr yng Ngwasanaethau i Blant RhCT, gyda’r ffocws ar feithrin carfanau cydnerth a chefnogol.

Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth HamddenAmOes am bris gostyngol a cherdyn Vectis sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.

Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa yn RhCT.

https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/JobsandTraining/Jobs/SocialCareandSocialWork/WorkingwithChildrenFamilies/RhonddaCynonTafChildrensServices.aspx  

Am ragor o wybodaeth am ein swyddi gwag presennol neu i drefnu trafodaeth anffurfiol, llenwch ein ffurflen ymholiadau - swyddi gwag Gwasanaethau i Blant

https://porthigwsmeriaid.rctcbc.gov.uk/FfurflenCysylltuArGwasanaethauIBlant

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn adnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y brosess denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadaeth rywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwyd Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi'n clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn gwireddu addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr a milwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

 

 

37
Ty Catrin / Agile
Maritime Industrial Estate
Pontypridd
CF37 1NY
4 Hydref 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.