Gweld swydd wag -- Gwerthuswr y Blynyddoedd Cynnar

Gofal Cymdeithasol - Plant a Phobl Ifainc
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Gradd 9
£30,095
Amser llawn dros dro

Mae'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar amserol sy'n canolbwyntio ar y teulu ac sy'n magu gwydnwch yn ogystal â darparu trefniadau effeithiol Carfan o Amgylch y Teulu (TAF) ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd y Garfan yn gwneud hyn trwy weithio yn unol â gofynion Deddf Plant 1989 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

Bwriad y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yw magu teuluoedd mwy gwydn ledled RhCT. I gyflawni hynny, mae'r gwasanaeth yn mynd ati i ddarparu ymyrraeth gynnar effeithlon ac amserol sy'n canolbwyntio ar y teulu.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gynnal Gwerthusiadau Blynyddoedd Cynnar cynhwysfawr a chyfeirio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau traddodiadol y Blynyddoedd Cynnar i deuluoedd sy’n cael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth gyda phlant 0–7 oed.

Bydd y swydd hefyd yn cynnwys bod yn rheolwr llinell i Weithwyr Gofal Plant yn y Gymuned y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth a gweithio’n agos gyda'r Swyddog Cynghori Lleoliadau i sicrhau lleoedd gofal plant priodol i deuluoedd sydd angen cymorth ymyrraeth gynnar i atal eu hanghenion rhag gwaethygu, ac i ategu datblygiad y plentyn.

Bydd e hefyd yn golygu gweithio mewn partneriaeth â'r holl weithwyr proffesiynol a gwasanaethau sy'n ymwneud â darparu'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth i sicrhau bod gwasanaethau di-dor yn cael eu rhoi i sicrhau canlyniadau effeithiol i deuluoedd.

Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar gymhwyster Blynyddoedd Cynnar/Gofal Plant Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (FfCCh) neu'r cymhwyster rhagflaenorol NVQ Lefel 3 mewn Gofal Plant a Phobl Ifainc, neu'r gallu i ennill cymhwyster FfCCh o fewn dwy flynedd i ni benodi aseswr ar eich cyfer chi. Mae profiad o reoli hefyd yn ddymunol.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Tracy Symon neu Lisa Lewis ar (01443) 281435.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Ty Trevithick
Abercynon
Mountain ash
CF45 4UQ
19 Awst 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.