Gweld swydd wag -- Uwch Beiriannydd – Gwasanaethau Rheoli Materion Datblygu a Mabwysiadu Priffyrdd

Traffig, Priffyrdd a Diogelwch ar y Ffyrdd
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd 11
£36,371
Amser Llawn Parhaol

Rydyn ni'n chwilio am Uwch Beiriannydd i ymuno â'r Garfan Rheoli Datblygiad y Priffyrdd a Mabwysiadu'r Priffyrdd yn yr Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth.

Dylai ymgeiswyr o leiaf feddu ar gymhwyster lefel Tystysgrif Genedlaethol Uwch / Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Peirianneg Sifil neu bwnc tebyg. Mae gwybodaeth ragorol o Reoli Datblygiadau'r Priffyrdd, Rheoli Traffig a Mabwysiadu Priffyrdd yn hanfodol ynghyd â dealltwriaeth dda o weithdrefnau cynllunio.

Dyma gyfle proffesiynol rhagorol a bydd eich mewnbwn yn helpu i lunio dyfodol y Rhwydwaith Priffyrdd a Thrafnidiaeth ar draws CBSRhCT mewn perthynas â phortffolio cynyddol o ddatblygiadau cyhoeddus a phreifat cyffrous. Bydd yr unigolyn llwyddiannus yn mynd ati i hyrwyddo cynaliadwyedd er mwyn bodloni ac amddiffyn gofynion ym maes Trafnidiaeth wrth edrych tua'r dyfodol.

Bydd y swydd yn canolbwyntio ar gynorthwyo'r Blaen Beiriannydd i ddarparu Gwasanaeth Rheoli Datblygu'r Priffyrdd yn effeithiol, effeithlon, ymatebol ac o ansawdd uchel trwy gymeradwyo manylion peirianyddol y seilwaith priffyrdd arfaethedig, trafod cytundebau Adran 38 a 278 a darparu sylwadau ar y priffyrdd i'r Awdurdod Cynllunio lleol mewn ymateb i geisiadau cynllunio.

Mae'r swydd llawn amser barhaol yma yn Nhŷ Sardis, Pontypridd. Mae parcio cyhoeddus cyfagos a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol â Chaerdydd a'r ardal gyfagos. Mae trefniant gweithio hybrid yn ei le ar hyn o bryd gyda staff yn gallu gweithio gartref ac o'r swyddfa. Mae'r cyfle i weithio gartref yn debygol o barhau yn y tymor hir, am ran o'r wythnos o leiaf. Dyma swydd 37 awr yr wythnos o dan y cynllun oriau gwaith hyblyg, gyda 25 diwrnod o wyliau blynyddol (yn codi i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd), a'r cyfle i ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a cherdyn buddion i staff.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar drwydded yrru ddilys lawn a bydd disgwyl iddo deithio rhwng safleoedd datblygu pan fydd angen. Bydd cerbyd sy'n cael ei rannu gan weithwyr ar gael i'w ddefnyddio hefyd.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd, ffoniwch Alan Rees ar 07717 360582.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
10 Ebrill 2023
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.