Gweld swydd wag -- Uwch Dechnegydd

Traffig, Priffyrdd a Diogelwch ar y Ffyrdd
Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen
Priffyrdd a Gofal y Strydoedd
Gradd 8
£27,514
Amser Llawn Parhaol

Rydyn ni am benodi Uwch Dechnegydd i weithio yn y garfan Strwythurau; carfan brysur sy'n rhan o Adran Rheoli Asedau Seilwaith yn Uwchadran y Priffyrdd a Gwasanaethau Gofal y Strydoedd.

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn gymorth i ddarparu Gwasanaeth Seilwaith y Priffyrdd o safon uchel.

Mae profiad o reoli / cynnal a chadw priffyrdd a / neu Ddylunio / Rheoli / Cynnal a Chadw strwythurau priffyrdd yn ddymunol.

Bydd dyletswyddau a phrif swyddogaethau'r rôl yn cynnwys:

Helpu i ddatblygu a chydlynu rhaglenni seilwaith y priffyrdd, gan gynnwys priffyrdd a strwythurau.

Cynorthwyo â gwaith arolygu ac archwilio a diweddaru cronfeydd data.

Cynnal arolygon safle pan fo angen er mwyn paratoi dyluniadau ar gyfer cynlluniau seilwaith y priffyrdd.

Diweddaru systemau mapio a chronfeydd data.

Cynorthwyo â goruchwylio, archwilio a monitro gwaith sy'n cael ei gyflawni gan gontractwyr/ymgynghorwyr, yn ôl yr angen, mewn perthynas â gofynion cytundebau a rhaglen a chyllideb awdurdodedig.

Sicrhau cydymffurfiaeth â'r holl ddeddfwriaeth, rheoliadau a rhwymedigaethau statudol perthnasol eraill sy'n gysylltiedig â phrosiectau seilwaith y priffyrdd.

Ymateb i gwynion, ymholiadau a cheisiadau am wasanaeth yn unol â pholisïau a chanllawiau'r Cyngor.

Am ragor o wybodaeth am y swydd, ffoniwch Laurence Sutton, Arweinydd Carfan Strwythurau'r Priffyrdd ar (01443) 281168.

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

37
Sardis House
Sardis Road
Pontypridd
CF37 1DU
27 Medi 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.