Gweld swydd wag -- Pennaeth Gwasanaeth - Ymyrraeth Ddwys

Gwaith Cymdeithasol
Gwasanaethau Cymunedol i Blant
Gwasanaethau i Blant
Pennaeth Gwasanaeth Lefel 1
£62,750
Amser Llawn Parhaol

Pennaeth Gwasanaeth - Ymyrraeth Ddwys

Allwch chi ysbrydoli, annog a datblygu carfanau gwaith cymdeithasol anhygoel i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a phobl ifainc?

Os felly, dyma eich annog i ystyried dod yn Bennaeth nesaf y Gwasanaeth Ymyrraeth Ddwys.

Mae eich diddordeb yn cyd-fynd ag amser cyffrous i ni wrth i ni adeiladu ar ein cynnydd a pharhau â'n taith tuag at welliant; gan gael ein hysgogi gan ein hymrwymiad ym mhob maes o'n gwasanaeth i wella deilliannau i blant a theuluoedd. Mae profiadau plant a theuluoedd o’n gwasanaethau, a’r canlyniadau rydyn ni’n eu cyflawni gyda’n gilydd yn wirioneddol bwysig i ni.

Ynglŷn â'r gwasanaeth

Mae ein Gwasanaeth Ymyrraeth Ddwys yn gweithio gyda phlant ag ystod eang o anghenion, sy'n cynnwys plant sy'n destun cynlluniau gofal a chymorth, Plant sy'n Derbyn Gofal a'r rheiny ym maes amddiffyn plant. Mae carfanau'r maes gwasanaeth yma'n gyfrifol am y rhan fwyaf o achosion gofal, datblygu sefydlogrwydd i blant a sicrhau bod pobl ifainc sy'n agored i niwed yn cael eu diogelu'n dda.

Ynglŷn â'r swydd

Dyma swydd allweddol lle byddwch chi'n arwain yn strategol ac yn darparu gwasanaethau diogelu a gwasanaeth i blant sy'n derbyn gofal, ynghyd â'u teuluoedd.

Byddwch chi'n mynnu arferion gorau, yn unol â gwerthoedd ein gwasanaeth, gan gefnogi gwaith datblygu ein model newydd o arferion gwaith cymdeithasol yn eich adran, ac yn gwreiddio'r model hwnnw.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei reoli'n effeithiol er mwyn sicrhau gwell deilliannau i blant a phobl ifainc ac er mwyn sicrhau ei gyflawniad.  Y bwriad yw datblygu ac arwain y gwasanaeth i fod yn enghraifft o arferion gorau o waith arloesol gyda phlant a theuluoedd.

Byddwch chi'n meddu ar gymhwyster gwaith cymdeithasol proffesiynol, h.y. gradd israddedig/gradd meistr mewn gwaith cymdeithasol neu gymhwyster blaenorol cydnabyddedig, e.e. CQSW, DipSW, CSS a phrofiad sylweddol o reoli gwasanaethau gofal plant gan gynnwys rheoli gwasanaethau, staff a chyllidebau amddiffyn plant  

Ein cynnig

Wrth weithio i Wasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf, bydd gyda chi fynediad at ystod eang o fuddion staff, yn ogystal ag ystod eang o gyfleoedd i ddysgu a datblygu.  Rydyn ni hefyd eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau ein bod ni'n amddiffyn eich lles, a bod gyda chi gydbwysedd gwaith/bywyd da.

Mae buddion eraill i staff yn cynnwys:

  • Yr hawl i ofyn am weithio hyblyg. Mae gyda ni bolisïau cefnogol ar gyfer rhieni sy'n cynnwys tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn ffordd hyblyg, sy'n eich galluogi chi i weithio gartref neu yn y swyddfa.
  • Mynediad i'n Huned Iechyd Galwedigaethol a CARI, ein hofferyn lles cyfrinachol digidol newydd.
  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol, sy'n cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth. Mae cyfle hefyd i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at uchafswm o 10 diwrnod (pro rata) y flwyddyn.
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) hael.
  • Defnydd o'n Canolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygu Proffesiynol Parhaus.
  • Rydyn ni hefyd yn datblygu rhaglen i gefnogi lles ymarferwyr yng Ngwasanaethau i Blant RhCT, gyda’r ffocws ar feithrin carfanau cydnerth a chefnogol.

Mae buddion ychwanegol ledled y Cyngor yn cynnwys ein cynllun Beicio i'r Gwaith, aelodaeth HamddenAmOes am bris gostyngol a cherdyn Vectis sy'n rhoi prisiau gostyngol i staff.

Dyma rai o’r buddion sydd gyda ni i’w cynnig. Edrychwch ar ein tudalennau gwe pwrpasol ar gyfer Gwasanaethau i Blant am ragor o wybodaeth ynghylch pam y dylech chi ddewis gyrfa yn RhCT.

https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/JobsandTraining/Jobs/SocialCareandSocialWork/WorkingwithChildrenFamilies/RhonddaCynonTafChildrensServices.aspx  

Am ragor o wybodaeth am ein swyddi gwag presennol neu i drefnu trafodaeth anffurfiol, llenwch ein ffurflen ymholiadau - swyddi gwag Gwasanaethau i Blant

 https://porthigwsmeriaid.rctcbc.gov.uk/FfurflenCysylltuArGwasanaethauIBlant

Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.

Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.

Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, neu'u gwŷr/gwragedd sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.

 

37
Ty Catrin/Agile
Maritime Industrial Estate
Pontypridd
CF37 1NY
1 Medi 2022
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siwr eich bod yn pwyso 'Gwneud cais' isod ar y dudalen hon (yn hytach na phwyso 'Apply' ar y dudalen Saesneg).

Mae'r cyfle hwn ar gau i ymgeiswyr.